Robat Arwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dramau cerdd |
gwybodaeth o wefan RA |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, [[Gwynedd]], ond sy'n byw yn [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]] ers [[1981]]. |
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, [[Gwynedd]], ond sy'n byw yn [[Rhuthun]], [[Sir Ddinbych]] ers [[1981]] yw '''Robert Arwyn Jones''' a adnabyddir ers 1982 fel '''Robat Arwyn'''. |
||
Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]] yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. |
Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]] yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i [[Rhuthun|Ruthun]] gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy. |
||
Gyda'r prifardd [[Robin Llwyd ab Owain]] cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y |
Gyda'r prifardd [[Robin Llwyd ab Owain]] cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y Sêr'. Bu Robat Arwyn hefyd yn flaenllaw iawn gyda'r grwp gwerin Trisgell yn y 1980au a Chôr Ieuenctid Rhuthun (yna '[[Côr Rhuthun]]) yn ddiweddarach, gan ddod yn arweinydd arnynt wedi marwolaeth Morfydd Vaughan-Evans yn Ionawr 2008. Mae ganddo ddau o blant.<ref>[http://www.robatarwyn.co.uk/Pages/biogC.htm Gwefan y cerddor]</ref> Cyfansoddodd yr alaw i rai o'r caneuon mewn dramâu cerdd fel [[Ceidwad y Gannwyll]] (1985), [[Iarlles y Ffynnon]] (1992-3) a [[Pwy bia'r Gân?]] (2003). |
||
Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys ''Benedictus'' gan Robat Arwyn. |
Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys ''Benedictus'' gan Robat Arwyn. |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
|} |
|} |
||
==Sioeau cerdd== |
|||
Cyfansoddodd Robat Arwyn y gerddoriaeth i rai o'r caneuon yn y sioeau canlynol: |
|||
*[[Ceidwad y Gannwyll]] (1985). Comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl. |
|||
*[[Rhys a Meinir]] (1987). Perfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987. |
|||
*[[Iarlles y Ffynnon]] (1996). Comisiwn gan Gyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Chwefror 1996. |
|||
*[[Pwy bia'r Gân?]] (2003). Comisiynwyd gan Adran y Gymraeg, Cyngor Sir Ddinbych a'i pherfformio gan blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion dalgylch Rhuthun yn Hydref 2003. |
|||
==Llyfrau== |
==Llyfrau== |
Fersiwn yn ôl 19:41, 1 Ionawr 2019
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, Gwynedd, ond sy'n byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych ers 1981 yw Robert Arwyn Jones a adnabyddir ers 1982 fel Robat Arwyn.
Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981. Symudodd o'r coleg i Ddinbych lle bu'n gweithio fel llyfrgellydd. Oddi yno symudodd i Ruthun gan weithio yn yr Hen Garchar, ger yr archifdy.
Gyda'r prifardd Robin Llwyd ab Owain cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y Sêr'. Bu Robat Arwyn hefyd yn flaenllaw iawn gyda'r grwp gwerin Trisgell yn y 1980au a Chôr Ieuenctid Rhuthun (yna 'Côr Rhuthun) yn ddiweddarach, gan ddod yn arweinydd arnynt wedi marwolaeth Morfydd Vaughan-Evans yn Ionawr 2008. Mae ganddo ddau o blant.[1] Cyfansoddodd yr alaw i rai o'r caneuon mewn dramâu cerdd fel Ceidwad y Gannwyll (1985), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).
Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys Benedictus gan Robat Arwyn.
Trisgell
Bu'n aelod o'r grwp Trisgell yn y 1980au cynnar. Dyma ddetholiad o ganeuon a recordiwyd ganddyn nhw:
Teitl y gân | Clip sain | Blwyddyn cyhoeddi | Rhif Catalog |
---|
Fel Un | 2012 | Sain SCD 2669 | |
Gwin Beaujolais | Delwedd:Gwin Beaujolais - Trisgell.ogg | 2012 | Sain SCD 2669 |
Llanelidan | 2012 | Sain SCD 2669 |
Sioeau cerdd
Cyfansoddodd Robat Arwyn y gerddoriaeth i rai o'r caneuon yn y sioeau canlynol:
- Ceidwad y Gannwyll (1985). Comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl.
- Rhys a Meinir (1987). Perfformiwyd gan Gwmni Theatr ardal Rhuthun yn 1987.
- Iarlles y Ffynnon (1996). Comisiwn gan Gyngor Sir Gwynedd. Perfformiwyd gan ddisgyblion Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, Chwefror 1996.
- Pwy bia'r Gân? (2003). Comisiynwyd gan Adran y Gymraeg, Cyngor Sir Ddinbych a'i pherfformio gan blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion dalgylch Rhuthun yn Hydref 2003.
Llyfrau
Mae'r cyfansoddwr wedi cyhoeddi oddeutu deg o gasgliadau o ganeuon, gan gynnwys Atgof o'r Sêr (Curiad), Er Hwylio'r Haul (Curiad), Er Mwyn Yfory (Y Lolfa) a Gwin Beaujolais (Y Lolfa). [2]
Cyfeiriadau