Pwy bia'r Gân?

Oddi ar Wicipedia

Sioe gerdd ar gyfer pobl ifanc yw Pwy bia'r Gân? a sgwennwyd gan Robin Llwyd ab Owain (caneuon a sgript), ac a berfformiwyd yn gyntaf yn hydref 2003. Comisiynwyd y gwaith gan Gyngor Sir Ddinbych pan berfformiwyd hi gan ddisgyblion dalgylch Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn.

Cyhoeddwyd rhai o'r caneuon yn y gyfrol Wyth Cân, Pedair Sioe.[1][2][3] Mae'r sgript a'r gerddoriaeth ar gael gan gyfansoddwr y gerddoriaeth.[4]

Yn 2018 roedd y ddrama gerdd hon yn parhau i gael ei pherfformio, gyda'r perfformiad diweddaraf gan Academi Gerdd y Lli a chyfarwyddwyd y sioe gan Gregory Vearey-Roberts; Tachwedd 2018.[5]

Stori[golygu | golygu cod]

Mae'r stori'n ymwneud â chystadleuaeth o'r enw'r 'Waw Ffactor' (a seiliwyd ar yr X-Factor deledu, boblogaidd) lle mae'r cystadleuwyr yn anelu i fod yn un o'r tri sy'n cyrraedd y rownd derfynol. Mae yma driongl serch rhwng y tri prif gymeriad sydd yn eu glasoed, gyda Gwenno'n methu a phenderfynu pa un o'r bechgyn mae'n ei hoffi fwyaf - Bobi (bachgen swil, hoffus ac atal dweud arno) neu James (cymeriad golygus ond llawn ohono'i hun).

Caneuon poblogaidd o'r sioe[golygu | golygu cod]

  • Cana o dy Galon[6] - prif gân albwm gyntaf Steffan Rhys Hughes a laniwyd yn 2006.[7][8] Dyma'r gân a roddodd ei henw i'r albwm.
  • Mae'r Gân yn ein Huno - ceir trefniant deulais ohoni ar wefan Sain (Recordiau) Cyf.[9] Ymddangosodd ar yr albwm Caneuon Robat Arwyn (2) - Ffydd Gobaith Cariad[10] yn 2015 (Sain SCD2728) gyda Rhys Meirion & Fflur Wyn yn perfformio'r gân.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cerdd Ystwyth; argraffwyd gan Wasg y Lolfa, Aberystwyth.
  2. Google Books; adalwyd 31 Rhagfyr 2018.
  3. gwales.com; adalwyd 31 Rhagfyr 2018.
  4. robatarwyn.co.uk; adalwyd 31 Rhagfyr 2018.
  5. Trwydar: Academi Gerdd y lli; dyddiad trydar - 25 Tachwedd 2018.
  6. You tube; Côr Ieuenctid Môn; adalwyd Rhagfyr 2018.
  7. discogs.com;
  8. sainwales.com; Archifwyd 2017-03-18 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Sain (Recordiau) Cyf.; rhyddhawyd Rhagfyr 2007; adalwyd 31 Rhagfyr 2018.
  9. sainwales.com Archifwyd 2016-12-21 yn y Peiriant Wayback.; Gwefan Sain (Recordiau) Cyf.; rhyddhawyd trefniant deulais; adalwyd 31 Rhagfyr 2018.
  10. siopypethe.cymru;[dolen marw] adalwyd 31 Rhagfyr 2018.