Ynysoedd y Falklands: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
addasu
Tagiau: Golygiad cod 2017
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 63: Llinell 63:
[[Categori:De America]]
[[Categori:De America]]
[[Categori:Enwau daearyddol dadleuol]]
[[Categori:Enwau daearyddol dadleuol]]
[[Categori:Gwledydd Saesneg]]
[[Categori:Gwledydd a thiriogaethau Saesneg]]
[[Categori:Tiriogaethau dadleuol]]
[[Categori:Tiriogaethau dadleuol]]
[[Categori:Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig]]

Fersiwn yn ôl 17:23, 17 Mai 2018

Falkland Islands
Ynysoedd y Falklands
Baner Ynysoedd y Falklands Arfbais Ynysoedd y Falklands
Baner Arfbais
Arwyddair: "Desire the right"
Anthem: God Save the Queen
Lleoliad Ynysoedd y Falklands
Lleoliad Ynysoedd y Falklands
Prifddinas Stanley
Dinas fwyaf Stanley
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg
Llywodraeth Brenhiniaeth Gyfansoddiadol
- Brenhines Elisabeth II
- Llywodraethwr Colin Roberts
- Prif weithredwr Keith Padgett
Dechreuad y Wladfa
2 Ionawr 1833
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
12,173 km² (4,700)
0
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
3,060 (25ain)
0.25/km² (229fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$75 miliwn (14ydd)
$25,000 (amcangyfrif 2002) (heb safle)
Indecs Datblygiad Dynol (Dim) Dim (Dim) – Dim
Arian cyfred Punt y Falklands1 (FKP)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-4)
Côd ISO y wlad .fk
Côd ffôn +500
1gosodedig gyda'r Bunt Sterling

Tiriogaeth sydd ym mherchnogaeth y Deyrnas Unedig yw Ynysoedd y Falklands neu Ynysoedd Malvinas (Saesneg: Falkland Islands, Sbaeneg: Islas Malvinas). Mae'r ynysoedd wedi eu lleoli yn hemisffer y de yng Nghefnfor yr Iwerydd, yn agos at yr Ariannin. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn Rhyfel y Falklands. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.

Enw

Daw enw Ynysoedd y Falklands o Swnt Falkland, y sianel rhwng y ddwy brif ynys, a gafodd ei enwi ar ôl Anthony Cary, 5ed Is-iarll Falkland gan y Capten John Strong a laniodd ar yr ynysoedd ym 1690. Daw'r enw Malvinas o'r enw Ffrangeg Iles malouines, oherwydd dyfodiad llawer o deithwyr o Sant-Maloù yn Llydaw. Enwir y ddinas honno, yn ei thro, am Sant Malo o Lancarfan, Bro Morgannwg.

Hanes

Darganfuwyd yr ynysoedd gan y Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw Falkland iddynt, ar ôl trysorydd y Llynges ar y pryd. Ym 1764, sefydlodd Ffrainc wladfa ar Ddwyrain Falkland ac enwi’r ynysoedd Les Iles Malouines. Ym 1765, sefydlodd Prydain gaer ar Ynys Saunders yn y gogledd orllewin. Ym 1766, trosglwyddodd Ffrainc Les Iles Malouines i Sbaen ac addaswyd yr enw yn Sbaeneg i Las Islas Malvinas. Ym 1774, rhoddodd y Saeson y gorau i Ynys Saunders. Ym 1816, hawliwyd Las Malvinas gan wladwriaeth newydd yr Ariannin a sefydlwyd presenoldeb milwrol yno rhwng 1820 ac 1833. Ym 1833, taflwyd yr Archentwyr allan ac ailfeddiannwyd y Falklands gan Brydain. Mae’r ynysoedd wedi aros yn Brydeinig hyd heddiw. I gadarnhau hawl Prydain i’r Falklands, cafodd nifer o bobl o Brydain eu perswadio i ymgartrefu ar yr ynysoedd. Mae poblogaeth yr ynysoedd heddiw (ac eithrio milwyr) tua 2,931 (2016).