Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
B dileu gwybodaeth anghywir
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd '''Brychan''' (fl. [[5g]]). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i [[Teyrnas Brycheiniog|Deyrnas Brycheiniog]] yn ne-ddwyrain [[canolbarth Cymru]]. Ei ddygwyl yw [[5 Ebrill]].

==Bywgraffiad==
Cyfarfu rhieni Brychan yn [[Iwerddon]] ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Priododd Marchell ach Tewdrig (mam Brychan) a oedd yn bennaeth [[Llanfaes]],<ref name=":0" /> ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn berchen Garth Madryn. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn, yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.

==Etifeddiaeth==
==Etifeddiaeth==
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y ''Cognatio de Brychan'' a ysgrifennwyd yn y [[10g]]<ref name=":0" /> ond mae wedi'i seilio ar ddogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll<ref name=":0">Jones, TT, 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref>. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybie, Tudful, a Tangwystl. Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru yn bennaf. Yn ol y Cognatio, Cynog, Rhun, Cledwyn, Arthen, Pabai, Rhain Dremrudd, Mathaiarn, Dingad, Cyflefwr, Berwyn a Rhawin oedd meibion Brychan. <<ref>Bartrum, P. C. 1966. Early Welsh Genealogical Tracts,Gwasg Prifysgol Cymru</ref>Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw neu Coel a [[Cunedda|Chunedda]].) Mae llawer o enwau eraill wedi ychwanegu at rhestrau "plant" Brychan. Maent fel arfer yn wyrion, wyresau neu gor-wyrion iddo (e.e. Dyfnan, Dilig, Adwen, Mabon, Menefrida, Morwenna, Wenna a Gwenfyl.)

Fersiwn yn ôl 15:00, 13 Mai 2018

Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler John Davies (Brychan).

Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd Brychan (fl. 5g). Ystyrir ef yn sant weithiau gan fod cynifer o'i blant yn seintiau. Rhoes ei enw i Deyrnas Brycheiniog yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru. Ei ddygwyl yw 5 Ebrill.

Cyfarfu rhieni Brychan yn Iwerddon ar ôl i'w fam fynd yno er mwyn dianc rhag gaeaf arbennig o oer. Priododd Marchell ach Tewdrig (mam Brychan) a oedd yn bennaeth Llanfaes,[1] ag Anlach ap Coronac, mab i bennaeth Gwyddelig, ar yr amod y byddai eu plant yn cael eu magu ar ei thir hi. Marchell oedd yn berchen Garth Madryn. Ganwyd Brychan, eu hunig plentyn, yng Ngarthmadrun tua'r flwyddyn 500 O.C. Ar ôl i Marchell farw etifeddodd Brychan ei thiroedd i'w trosglwyddo i'w ferched.

Etifeddiaeth

Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o ferched a tua 11 o feibion yn ôl y Cognatio de Brychan a ysgrifennwyd yn y 10g[1] ond mae wedi'i seilio ar ddogfennau hŷn sydd ymhellach ar goll[1]. Mae'r 'Cognatio' yn enwi ei ferched fel a ganlyn: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybie, Tudful, a Tangwystl. Daeth y rhan fwyaf ohonynt yn seintiau gan sefydlu llannau yn ne a dwyrain Cymru yn bennaf. Yn ol y Cognatio, Cynog, Rhun, Cledwyn, Arthen, Pabai, Rhain Dremrudd, Mathaiarn, Dingad, Cyflefwr, Berwyn a Rhawin oedd meibion Brychan. <[2]Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y Trioedd fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd Caw neu Coel a Chunedda.) Mae llawer o enwau eraill wedi ychwanegu at rhestrau "plant" Brychan. Maent fel arfer yn wyrion, wyresau neu gor-wyrion iddo (e.e. Dyfnan, Dilig, Adwen, Mabon, Menefrida, Morwenna, Wenna a Gwenfyl.)

Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; Bu Brycheiniog yn bwysig yn natblygiad Cristnogaeth Geltaidd [3]. Disgrifiodd John Davies de-ddwyrain Cymru fel "meithrinfa'r Eglwys Geltaidd a chroth gweithgarwch a adfywiodd Ewrop." [3]

Ffurfwyd Brycheiniog fel cyngrhair rhwng rhai o feibion Brychan ar ôl ei farwolaeth er mwyn amddiffyn eu hunain rhag llwythau eraill.[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Jones, TT, 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII
  2. Bartrum, P. C. 1966. Early Welsh Genealogical Tracts,Gwasg Prifysgol Cymru
  3. 3.0 3.1 Davies J, 1990 Hanes Cymru, Penguin