Grymoedd rhyngfoleciwlaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
manion |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Bydd gan gyfansoddion gyda grymoedd deupol anwythol deupol anwythol rhwng y moleciwlau berwbwyntiau isel. |
Bydd gan gyfansoddion gyda grymoedd deupol anwythol deupol anwythol rhwng y moleciwlau berwbwyntiau isel. |
||
==Grymoedd deupol |
==Grymoedd deupol-deupol== |
||
Yr enw arall ar y rhyngweithio hwn ydy Rhyngweithio Keesom a alwyd ar ôl [[Willem Hendrik Keesom]], a luniodd y disgrifiad mathemategol cyntaf yn 1921. |
|||
Mae’n bosib i rai moleciwlau gario deupolau. Mae’r gwefrau bach polar yn atynnu ei gilydd, a dyma wraidd y grym rhyngfoleciwlaidd hwn. Mae’r gwefrau llawer yn llai na’r gwefrau mewn ionau, felly mae’r grymoedd llawer yn wanach na’r grymoedd yn y dellten ionig. |
Mae’n bosib i rai moleciwlau gario deupolau. Mae’r gwefrau bach polar yn atynnu ei gilydd, a dyma wraidd y grym rhyngfoleciwlaidd hwn. Mae’r gwefrau llawer yn llai na’r gwefrau mewn ionau, felly mae’r grymoedd llawer yn wanach na’r grymoedd yn y dellten ionig. |
||
Esiampl o hyn ydyw [[asid heidroclorig]]: |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
Rhai esiamplau yw bondiau C-O C-Cl neu C-F |
|||
==Grymoedd deupol anwythol- deupol anwythol (Grymoedd van der Waals)== |
==Grymoedd deupol anwythol- deupol anwythol (Grymoedd van der Waals)== |
Fersiwn yn ôl 06:40, 4 Ebrill 2009
Mae grymoedd rhyngfoleciwlaidd yn rheoli priodweddau ffisegol megis berwbwynt a hydoddedd. Dyma'r grymoedd sy'n cadw'r moleciwlau yn agos i'w gilydd yn yr hylif a'r solid. Y cryfaf yw'r grymoedd rhwng y moleciwlau, y mwyaf yw'r egni sydd ei angen i'w torri, felly'r uchaf bydd y berwbwynt.
Mae yna dair math o rym rhyngfoleciwlaidd:-
- Bondio Hydrogen (Y cryfaf)
- Grymoedd deupol-deupol
- Grymoedd deupol-anwythol deupol anwythol (Grymoedd van der waals)
Mae pob un o'r grymoedd hyn yn wannach na'r bondiau cofalent. Felly bydd gan gyfansoddyn sydd â bondiau hydrogen rhwng y moleciwlau ferwbwynt uchel.
Bydd gan gyfansoddion gyda grymoedd deupol anwythol deupol anwythol rhwng y moleciwlau berwbwyntiau isel.
Grymoedd deupol-deupol
Yr enw arall ar y rhyngweithio hwn ydy Rhyngweithio Keesom a alwyd ar ôl Willem Hendrik Keesom, a luniodd y disgrifiad mathemategol cyntaf yn 1921.
Mae’n bosib i rai moleciwlau gario deupolau. Mae’r gwefrau bach polar yn atynnu ei gilydd, a dyma wraidd y grym rhyngfoleciwlaidd hwn. Mae’r gwefrau llawer yn llai na’r gwefrau mewn ionau, felly mae’r grymoedd llawer yn wanach na’r grymoedd yn y dellten ionig.
Esiampl o hyn ydyw asid heidroclorig:
I ddarganfod a oes grymoedd deupol-deupol yn bresenol, rhaid darganfod os oes deupol yn y moleciwl. Ffurfir deupol os oes gan ddau atom wedi’i bondio i’w gilydd electronegatifedd tra gwahanol. Rhai esiamplau yw bondiau C-O C-Cl neu C-F
Grymoedd deupol anwythol- deupol anwythol (Grymoedd van der Waals)
Mae llawer o foleciwlau amholar, fel H2 a’r nwyon nobl, yn gallu cael eu hylifo ar dymheredd isel ac o dan wasgedd uchel. Mae’n dilyn felly fod gan y moleciwlau hyn atyniad at ei gilydd. Mae’r grymoedd hyn yn wan iawn, ac fe’u gelwir yn rymoedd deupol anwythol- deupol anwythol, neu’n fwy aml yn rymoedd van der Waals. Mae’r grymoedd hyn yn bodoli oherwydd deupolau dros dro.
Mae’r electronnau o fewn moleciwl yn symud yn gyflum tu mewn i’r orbitalau yn y moleciwl. Nid patrwm i’w mudiant ac felly gall gwefr posotif y niwclews a gwefr negatif yr electronnau cyd-daro ar unrhyw bryd. Gelwir hyn yn ddeupol tonnog. Mae’r gwefr negatif yn y deupol hwn yn medru gwrthyrru electronnau yng nghwmwl electron moleciwl arall i greu deupol dros dro yn y moleciwl hwnnw.
Gan fod grymoedd van der Waals yn bresennol mewn unrhyw foleciwl sy’n cynnwys electronnau, maent yn bresennol ymhob moleciwl. Er hynny mae’r grymoedd yn wan iawn, felly nid y rhain yw’r grymoedd pwyicaf lle bo unrhyw rym rhyngfoleciwlaidd arall.
Gan fod y grymoedd yn dibynnu ar fudiant electronnau: Po fwyaf y nifer o electronnau mewn moleciwl, po fwyaf hefyd fydd y deupolau dros- dro a po fwyaf yna fydd y grymoedd van der Waals a sefydlir.
Mae nifer yr electronnau yn cynyddu wrth fynd i lawr y grwp, sy’n arwain at van der Waals cryfach ac felly berwbwyntiau uwch.
Bondio Hydrogen
Pan mae hydrogen yn bondio i elfen electronegyddol iawn megis (fflworin, ocsigen neu nitrogen) caiff deupol mawr ei greu. Mae’r sefyllfa yma yn unigryw gan fod atom o hydrogen mor fach heb unrhyw blisg o electronnau mewnol.
- Dim ond un electron sydd ar yr atom hydrogen, ac mae’r electron yna yn treulio rhan helaeth o’i amser rhwng y ddau niwclews.
- Heb blisg mewnol llawn nid oes yna unrhyw sgrinio o’r niwclews.
- Mae’r atom mor fach fel y gall pen negatif deupol agosau at niwclews yr hydrogen.
Gall yr ardal posotif yma ffurfio grymoedd deupol-deupol hynod o gryf gyda gwefr negatif. Gelwir yn bondio hydrogen, a gall grym rhyngfoleciwlaidd hwn fod hyd at 10% o gryfder bond cofalent. Mae’r bondiau hydrogen hefyd yn fwy cyfeiriadol eu natur na grymoedd deupolar. Arweinwyr hyn at dellt efo fwy o drefn na dellt lle nid oes bondio hydrogen.