Asid hydroclorig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Asid heidroclorig)
Asid hydroclorig
Enghraifft o'r canlynolhydoddiant dyfrllyd Edit this on Wikidata
Mathhydrohalic acid Edit this on Wikidata
Màs54.47 uned Dalton Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdŵr, hydrogen clorid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Titradu asid mewn labordy

Cymysgedd o hydrogen clorid (sef hydrogen a clorin) mewn dŵr ydy'r hylif asid hydroclorig. Mae'n hynod o gyrydol (h.y. yn cyrydu), yn asid cryf iawn ac yn asid mwynau, ac felly mae'n ddefnyddiol iawn mewn diwydiant. Fe'i ceir yn naturiol yn hylif eich coluddion h.y. asid gastrig.

ers talwm, yr enw amdano oedd 'asid mwriatig' ac e'i gwnaed drwy arllwys asid swlffwrig ar ben halen. Disgrifiwyd ef gan yr alcemydd Jabir ibn Hayyan yn yr 8g. Yn yr Oesoedd Canol, fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan alcemyddion wrth geisio darganfod carreg y athronydd ('philospher's stone') ac yna gan wyddonwyr Ewrop (gan gynnwys Glauber, Priestley, and Davy yn eu harbrofion gwyddonol.

Yn y chwyldro diwydiannol, fodd bynnag, y dechreuwyd ei gynhyrchu mewn galwyni. Fe'i defnyddir, er enghraifft, wrth gynhyrchu feinyl clorid wrth wneud plastig (PVC), MDI a TDI. Fe'i defnyddir i raddau llai ar gyfer ychwanegiadau at fwydydd megis jelatîn ac wrth gynhyrchu lledr. Cynhyrchir tuag 20 ,miliwn tunnell metrig ohono (mewn ffurf nwy) flynyddol.