Corhwyaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→top: Manion ee bawd delwedd |
Yn gosod File:Anas_crecca_distribution_map.png yn lle Anas_crecca_dis.PNG (gan CommonsDelinker achos: File renamed: Criterion 2 (meaningless or ambiguous name)). |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
| awdurdod_deuenwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758 |
| awdurdod_deuenwol = [[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758 |
||
}} |
}} |
||
[[Delwedd:Anas crecca |
[[Delwedd:Anas crecca distribution map.png|bawd|250px|Y Gorhwyaden yn Ewrop ac Asia]] |
||
Mae'r '''Gorhwyaden''' ('''''Anas crecca''''') yn un o'r [[hwyaden|hwyaid]] mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd [[Ewrop]] and [[Asia]]. Yng [[Gogledd America|Ngogledd America]] mae ffurf debyg iawn, y [[Corhwyaden Asgell-werdd|Gorhwyaden Asgell-werdd]] ''Anas carolinensis'', oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar. |
Mae'r '''Gorhwyaden''' ('''''Anas crecca''''') yn un o'r [[hwyaden|hwyaid]] mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd [[Ewrop]] and [[Asia]]. Yng [[Gogledd America|Ngogledd America]] mae ffurf debyg iawn, y [[Corhwyaden Asgell-werdd|Gorhwyaden Asgell-werdd]] ''Anas carolinensis'', oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar. |
||
Fersiwn yn ôl 20:15, 11 Mawrth 2018
Corhwyaden | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Genws: | Anas |
Rhywogaeth: | A. crecca |
Enw deuenwol | |
Anas crecca Linnaeus, 1758 |
Mae'r Gorhwyaden (Anas crecca) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd Ewrop and Asia. Yng Ngogledd America mae ffurf debyg iawn, y Gorhwyaden Asgell-werdd Anas carolinensis, oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar.
Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac weithiau yn symud cyn belled ag Affrica yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau.
Dyma'r lleiaf o'r genws Anas. Yn ei blu nythu, mae'r ceiliog yn llwyd ar y cefn a'r ochrau gyda melyn o dan y gynffon, darn gwyrdd ar yr adenydd a phen browngoch gyda gwyrdd o gwmpas y llygad. Mae'r iar yn frown neu lwyd, ond gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y rhan fwyaf o hwyaid eraill trwy eu bod yn llai a bod ganddynt wyrdd ar yr adain. Wrth hedfan, mae haid yn medru troi a throsi yn sydyn yn yr awyr, bron fel haid o rydyddion.
Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd lle mae tipyn o dyfiant. Gall pwll bach neu gors fod yn ddigon iddynt fagu cywion. Planhigion yw eu bwyd pennaf. Mae'n aderyn eithaf swnllyd, ac mae gan y ceiliog chwiban glir sy'n nodweddiadol o'r gorhwyaden.
Ychydig o barau o'r Gorhwyaden sy'n nythu yng Nghymru, ond yn y gaeaf mae nifer fawr i'w gweld ar lynnoedd a chorsydd.