Ashdod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
llun |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Dinas bumed mwyaf [[Israel]], ar lan y [[Môr Canoldir]] yn ne'r wlad, yw '''Ashdod''' neu '''Isdud''' ([[Hebraeg]]: אַשְׁדּוֹד ''Ashdod''; [[Arabeg]]: اشدود, إسدود ''Isdud''). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo. |
Dinas bumed mwyaf [[Israel]], ar lan y [[Môr Canoldir]] yn ne'r wlad, yw '''Ashdod''' neu '''Isdud''' ([[Hebraeg]]: אַשְׁדּוֹד ''Ashdod''; [[Arabeg]]: اشدود, إسدود ''Isdud''). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo. |
||
Mae'r |
Mae'r aneddiad cyntaf a wyddys yn Ashdod yn perthyn i gyfnod diwylliant [[Canaan]] yn yr 17eg ganrif CC. Cyfeirir at Ashdod 13 o weithiau yn y [[Beibl]]. Mae ei hanes yn ddrych i hanes [[Palesteina]] ei hun: roedd yn un o bum ddinas-wladwriaeth y [[Ffilistiaid]] a bu ym meddiant [[Teyrnas Israel]], yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]], y [[Croesgadwyr]] a'r [[Arabiaid]]. Sefydlwyd y ddinas fodern yn 1956 ar ôl i'r rhan fwyaf o'r [[Palesteiniaid]] lleol gael eu gorfodi i ymadael. Cafodd siarter dinas yn 1968. |
||
Yn ystod [[Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948]], defnyddiodd Byddin [[yr Aifft]] Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. [[Al Nakba|Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref]] gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan [[Llu Amddiffyn Israel]]. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn [[Llain Gaza]] lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw<ref>Benny Morris, ''The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited'', Cambridge Press 2004 pp.471</ref> Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth |
Yn ystod [[Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948]], defnyddiodd Byddin [[yr Aifft]] Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. [[Al Nakba|Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref]] gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan [[Llu Amddiffyn Israel]]. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn [[Llain Gaza]] lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw<ref>Benny Morris, ''The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited'', Cambridge Press 2004 pp.471</ref> Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth Ashdod rhwng 1991 a 2000 wrth i tua 100,000 o bobl gyrraedd yno i fyw, yn bennaf o'r hen [[Undeb Sofietaidd]]. |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 20:49, 22 Ionawr 2009
Dinas bumed mwyaf Israel, ar lan y Môr Canoldir yn ne'r wlad, yw Ashdod neu Isdud (Hebraeg: אַשְׁדּוֹד Ashdod; Arabeg: اشدود, إسدود Isdud). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo.
Mae'r aneddiad cyntaf a wyddys yn Ashdod yn perthyn i gyfnod diwylliant Canaan yn yr 17eg ganrif CC. Cyfeirir at Ashdod 13 o weithiau yn y Beibl. Mae ei hanes yn ddrych i hanes Palesteina ei hun: roedd yn un o bum ddinas-wladwriaeth y Ffilistiaid a bu ym meddiant Teyrnas Israel, yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, y Croesgadwyr a'r Arabiaid. Sefydlwyd y ddinas fodern yn 1956 ar ôl i'r rhan fwyaf o'r Palesteiniaid lleol gael eu gorfodi i ymadael. Cafodd siarter dinas yn 1968.
Yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, defnyddiodd Byddin yr Aifft Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan Llu Amddiffyn Israel. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn Llain Gaza lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw[1] Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth Ashdod rhwng 1991 a 2000 wrth i tua 100,000 o bobl gyrraedd yno i fyw, yn bennaf o'r hen Undeb Sofietaidd.
Cyfeiriadau
- ↑ Benny Morris, The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited, Cambridge Press 2004 pp.471
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas