Robert Thomas (Ap Vychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
→Llyfryddiaeth: cat |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol ''Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan'', gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas. |
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol ''Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan'', gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas. |
||
[[Categori:Beirdd Cymraeg|Thomas (Ap Vychan), Robert]] |
|||
{{DEFAULTSORT:Thomas (Ap Vychan), Robert}} |
|||
[[Categori: |
[[Categori:Beirdd Cymraeg]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Llenorion Cymraeg]] |
||
[[Categori:Gweinidogion ac offeiriaid Cristnogol]] |
|||
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]] |
|||
[[Categori:Genedigaethau 1809]] |
|||
[[Categori:Marwolaethau 1880]] |
|||
[[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]] |
[[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]] |
Fersiwn yn ôl 16:48, 15 Awst 2008
Llenor a gweinidog o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst, 1809 - 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.
Ganed Ap Vychan (sic) mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam,
- 'Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
- Yn wyneb caledfyd;
- Canai hi heb ofni'r byd
- Yn oedfa gerwin adfyd.'
Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feist, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r Methodus mawr J. R. Jones, Ramoth. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i apwyntiwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaerleon, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.
Llyfryddiaeth
- Gwaith Ap Vychan, gol. O. M. Edwards (Cyfres y Fil)
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.