Robert Jones Derfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
dolen
Llinell 3: Llinell 3:
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes.

Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at [[sosialaeth]]. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.

Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn ''[[Y Cymro]]'' a ''Llais Llafur '' rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar [[Robert Owen]] fel [[nawddsant]] Cymru yn lle [[Dewi Sant]].

Fersiwn yn ôl 11:52, 13 Awst 2008

Delwedd:R J Derfel.jpg
R J Derfel (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Bardd ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 - 17 Rhagfyr 1905).

Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.

Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.

Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant.

Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.

Llyfryddiaeth

  • Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
  • Traethodau ac Areithiau (1864)
  • Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
  • Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
  • Caneuon (1891).
  • Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.

Doleni allanol