John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ychwanegu llun o John Jones. |
→Bywgraffiad: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am [[seryddiaeth]] - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y [[Beibl]] gan ddod i fedru darllen [[Groeg]] a [[Hebraeg]]. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.<ref name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein"/> |
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am [[seryddiaeth]] - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y [[Beibl]] gan ddod i fedru darllen [[Groeg]] a [[Hebraeg]]. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.<ref name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein"/> |
||
Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur [[Samuel Smiles]], a fu'n enwog yn ail hanner y |
Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur [[Samuel Smiles]], a fu'n enwog yn ail hanner y 19g am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel ''Self-Help'', a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol ''Men of Invention and Industry'' (1884).<ref name="ReferenceA"/> |
||
Bu farw ym Mangor yn 1898.<ref name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein"/> |
Bu farw ym Mangor yn 1898.<ref name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein"/> |
Fersiwn yn ôl 02:56, 13 Hydref 2017
Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]
Bywgraffiad
Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[1]
Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog yn ail hanner y 19g am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol Men of Invention and Industry (1884).[2]
Bu farw ym Mangor yn 1898.[1]
Llyfryddiaeth
- Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
- Samuel Smiles, Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)