Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B gramadeg (symud cromfachau)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Cadwallon ap Cadfan''' (bu farw [[633]]) yn frenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] o tua 625 hyd ei farw.
Roedd '''Cadwallon ap Cadfan''' (bu farw [[633]]) yn frenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] o tua 625 hyd ei farw.


Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, [[Cadfan ap Iago]]. Ymosodwyd ar Wynedd gan Edwin o [[Deira]] ([[Northumbria]]) heddiw, a gyrhaeddodd cyn belled ag [[Ynys Môn]] a gorfodi Cadwallon i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]]. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yr oedd Edwin cyn hyn wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r [[Trioedd Cymreig]] yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, [[Cadfan ap Iago]]. Ymosodwyd ar Wynedd gan Edwin o [[Deira]] ([[Northumbria]] heddiw), a gyrhaeddodd cyn belled ag [[Ynys Môn]] a gorfodi Cadwallon i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]]. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yr oedd Edwin cyn hyn wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r [[Trioedd Cymreig]] yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".


Gwnaeth Cadwallon gytundeb a [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]]. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Gwnaeth Cadwallon gytundeb a [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]]. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.

Fersiwn yn ôl 19:10, 2 Tachwedd 2005

Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.

Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosodwyd ar Wynedd gan Edwin o Deira (Northumbria heddiw), a gyrhaeddodd cyn belled ag Ynys Môn a gorfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin cyn hyn wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".

Gwnaeth Cadwallon gytundeb a Penda, brenin Mercia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meigen ("Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.

Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef mewn brwydr ger Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.

Cyfeiriadau

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)