Grŵp Lleol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: ro:Grupul Local |
B robot Adding: lt:Vietinė galaktikų grupė |
||
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
[[ko:국부은하군]] |
[[ko:국부은하군]] |
||
[[lb:Lokal Grupp]] |
[[lb:Lokal Grupp]] |
||
[[lt:Vietinė galaktikų grupė]] |
|||
[[nl:Lokale Groep]] |
[[nl:Lokale Groep]] |
||
[[no:Den lokale gruppen]] |
[[no:Den lokale gruppen]] |
Fersiwn yn ôl 19:34, 15 Mawrth 2008
Y Grŵp Lleol yw ein galaeth ni (y Llwybr Llaethog) a'r galaethau a chlystyrau sêr agosaf iddo. Ar wahân i'r Llwybr Llaethog y prif wrthrychau yw'r galaethau Andromeda a Triangulum. Mae'r grŵp yn cynnwys dros 30 galaeth, gyda'i chanol disgyrchiant yn gorwedd rhwng y Llwybr Llaethog a Galaeth Andromeda. Mae ganddo dryfesur o dros 10 miliwn blwyddyn golau a siâp dymbel dwbl. Amcangyfrifir fod ei fás yn (1.29 ± 0.14)×1012M☉. Er mor anferth yw hynny, mae'r grŵp ei hun yn un o nifer o fewn yr Uwch Glystwr Virgo (ein Uwch Glystwr Lleol).
Aelodau mwyaf y grŵp yw'r Llwybr Llaethog a Galaeth Andromeda. Galaethau troellog bariedig ydynt, gyda'i galaethau lleol eu hunain yn cylchdroi o'u cwmpas.
Mae system lleol y Llwybr Llaethog yn cynnwys Sag DEG, y Cwmwl Magellanig Mawr, y Cwml Magellanig Bach, Canis Major Corrach, Ursa Minor Corrach, Draco Corrach, Carina Corrach, Sextans Corrach, Sculptor Corrach, Fornax Corrach, Leo I, Leo II, Tucana Corrach, ac Ursa Major Corrach.
Mae system Andromeda yn cynnwys M32, M110, NGC 147, NGC 185, And I, And II, And III, And IV, And V, Pegasus dSph, Cassiopeia Corrach, And VIII, And IX, ac And X.
Gallai Galaeth Triangulum, y trydydd mwyaf a'r unig galaeth troellog rheolaidd yn y Grŵp Lleol, fod yn gydymaith i alaeth Andromeda neu beidio, ond yn ôl pob tebyg mae ganddo Pisces Corrach fel galaeth lloeren. Mae aelodau eraill y grŵp lleol yn bodoli ar wahân mewn termau disgyrchiant i'r tri is-grŵp mawr hyn.