Sextans A

Oddi ar Wicipedia
Sextans A
Enghraifft o'r canlynollow-surface-brightness galaxy, dwarf irregular galaxy, HI (21cm) source, infrared source Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1942 Edit this on Wikidata
Rhan oGrŵp Lleol Edit this on Wikidata
CytserSextans Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear1.45 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol324 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Galaeth Sextans A yn y Grŵp Lleol trwy fater rhyngserol yng Ngalaeth y Llwybr Llaethog. Clystyrau o sêr newydd yw'r rhannau lliw glas yn y llun.

Galaeth corrach afreolaidd bychan yw Sextans A (UGCA 205). Mae'n mesur tua 5000 blwyddyn goleuni ar draws ac mae'n gorwedd yn y Grŵp Lleol, y grŵp o alaethau a gwrthrychau eraill sy'n cynnwys Galaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni.

Ar bellter o 4.3 miliwn blwyddyn goleuni o'r Ddaear, Sextans A yw un o'r aelodau mwyaf pellenig yn y Grŵp Lleol, ac fe'i nodweddir gan ei ffurf sgwâr anghyffredin. Credir fod hyn yn ganlyniad i ffrwydro sêr anferth byrhoedlog yn supernovae gan achosi creu rhagor o sêr a'r rhai hynny yn eu tro yn creu rhagor o supernovae wedyn, gan arwain yn y pendraw at greu plusgen ymestynnol sy'n edrych fel siâp sgwâr o safbwynt rhywun ar y Ddaear. Mae'n gorwedd yn y rhan o'r awyr a adnabyddir fel Cytser Sextans. Y galaeth agosaf iddo yw Sextans B.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]