Llwybr Llaethog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am Alaeth y Llwybr Llaethog, gweler Yr Alaeth.
Am y band cerddorol, gweler Llwybr Llaethog (band).
Y Llwybr Llaethog yn ymestyn ar draws awyr y nos.
Darlun o'r Llwybr Llaethog yn ymestyn ar draws yr holl wybren gwneir gan Arsyllfa Deheuol Ewrop allan o nifer o luniau annibynnol. Mae canol yr Alaeth yng nghanol y darlun,
Darlun o ran o'r Llwybr Llaethog yng nghytserau Sagittarius a Scorpius yn edrych tua'r canol ein Galaeth ni. Achosir yr ardaloedd tywyll gan gymylau o lwch cymysglyd â nwy rhyngserol.

Y Llwybr Llaethog yw'r band llydan o oleuni sydd i'w weld yn disgleirio yn wan ar draws awyr y nos o lefydd tywyll. Fe'i gwnaed o oleuni miliynau o sêr.

Y Llwybr Llaethog yn awyr y nos[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Llwybr Llaethog yn eithaf hawdd i'w weld gyda'r llygad noeth, ymhell o oleuadau trefol; ymddengys fel band sy'n amgylchu'r wybren. Gall oleuadau trefi guddio'r Llwybr Llaethog yn llwyr. Mae'r band yn fwy llydan a mwy disglair mewn rhai rhannau nag eraill, yn enwedig yn y cytserau Sagittarius a Scorpius. Mae'r band yn afreolaidd ac yn torri i ddwy rhan mewn rhai lleoedd.

Mae'r enw Llwybr Llaethog yn tarddu o'r henfyd clasurol, gan ei bod yn edrych yn debyg i ffordd a wneuthwyd allan o laeth. Via lactea (sef ffordd laethog) oedd yr hen enw Lladin, a oedd yn dod o'r enw Groeg galaxías kýklos (γαλαξίας κύκλος), sef cylch laethog.

Un hen enw Cymraeg am y Llwybr Llaethog oedd Caer Gwydion, sy'n gysylltiedig â Gwydion fab Dôn yn chwedlau y Mabinogi. Mae hen enwau eraill yn cynnwys Bwa'r Gwynt, Heol y Gwynt, Llwybr y Gwynt, y Ffordd Laethog, y Ffordd Wen a'r Ffordd Laethwen.[1]

Edrychodd Galileo Galilei ar y Llwybr Llaethog trwy'i delesgop yn y flynyddoedd 1609 a 1610. Fe welodd bod y Llwybr Llaethog wedi ei chyfansoddi o nifer enfawr o sêr o ddisgleirdeb gwan.[2]

Natur y Llwybr Llaethog[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae mwyafrif o'r sêr yn ein Galaeth ni yn bodoli mewn disg eang tenau. Lleolir y Cysawd yr Haul a'r Ddaear yn y disg, a felly mae'r sêr pell yn ymddangos fel band o amgylch yr awyr nos. Hwn yw y Llwybr Llaethog.[3][4]

Yn y cytser Sagittarius yw lleoliad canol yr Alaeth, a felly mae'r Llwybr Llaethog yn fwyaf disglair yn y cyfeiriad hwn. Mae Ymchwydd yr Alaeth hefyd i'w ganfod yng nghyfeiriad Sagittarius a Scorpius, sydd yn ychwanegu i'r disgleirdeb y Llwybr Llaethog yn ardal hon o'r wybren.

Canfyddir nifylau a chlysterau sêr yn y Llwybr Llaethog yn ogystal â'r nifer enfawr o sêr. Mae llawer o'r nwy yn yr Alaeth yn bodoli yng nghanol y disg serol, mewn haen denau. Cymysglyd gyda'r nwy ydy llwch sydd yn amsugno'r goleuni sêr tu ôl. Effaith y llwch ydy creu ardaloedd o'r Llwybr Llaethog sydd yn edrych yn dywyll o'r Ddaear. Dyma rheswm mae'r Llwybr Llaethog yn edrych yn afreolaidd mewn rhannau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Griffiths, Bruce; Jones, Dafydd Glyn (1995). Geiriadur yr Academi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tud. M:891. ISBN 0-7083-1186-5.
  2. Berry, Arthur (1961). A Short History of Astronomy from the Earliest Times Through the Nineteenth Century. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc.. tud. 151. (Yn Saesneg.)
  3. Mihalas, Dmitri; Binney, James (1981). Galactic Astronomy. San Francisco: W. H. Freeman and Company. ISBN 0-716-71280-6. (Yn Saesneg.)
  4. Binney, James; Merrifield, Michael R. (1998). Galactic Astronomy. Princeton, New Jersey: Princeton University Press. ISBN 0-691-02565-7. (Yn Saesneg.)
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.