Neidio i'r cynnwys

Gwalchmai ap Gwyar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 89 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(llun)
BDim crynodeb golygu
Ymddengys Gwalchmai fel un o ŵyr Arthur yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle disgrifir ef fel nai i Arthur. Yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] enwir ei farch fel Ceingaled, a dywedir fod ei fedd ym Mheryddon. Dywed [[William o Malmesbury]] yn ei ''[[De Rebus Gestis Anglorum]]'' iddo deyrnasu mewn rhan o Brydain a eilw yn Walweitha, a dywed fod ei fedd yn [[Rhos (cantref)|Rhos]]. Ceir yr enw [[Castell Gwalchmai]] yn y cantref hwnnw.
 
Mae'n gymeriad pwysig yn ''[[Historia Regum Britanniae]]'' [[Sieffre o Fynwy]], lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn eifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr [[Medrawd]]. Ymddengys hefyd yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]], lle mae'n batrwm o [[sifalri]]. Ef yw arwr y chwedl Seisnig o'r [[14eg ganrif]], ''[[Sir Gawain and the Green Knight]]''.
 
[[Categori:Cylch Arthur]]
37,236

golygiad