Bithynia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: 300px|right|thumb|Talaith Rufeinig Bithynia. Teyrnas a thalaith Rufeinig yn Asia Leiaf oedd '''Bithynia'''. Yn y dwyrain roedd yn ffinio ar [[...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:23, 7 Rhagfyr 2007

Talaith Rufeinig Bithynia.


Teyrnas a thalaith Rufeinig yn Asia Leiaf oedd Bithynia. Yn y dwyrain roedd yn ffinio ar Paphlagonia, yn y gorllewin ar Mysia ac yn y de ar Phrygia, Epictetus a Galatia. Roedd nifer o ddinasoedd pwysig ar lannau'r Propontis (Môr Marmara heddiw), yn cynnwys Nicomedia, Chalcedon, Cius ac Apamea. Yn Bithynia hefyd yr oedd Nicaea, a roddodd ei henw i Gredo Nicea. Mae'n ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Olympus "Mysaidd" yn cyrraedd 2,300 medr (7,600 troedfedd).

Yn ôl haneswyr fel Herodotus, Xenophon a Strabo, llwyth Thraciaidd oedd y Bithyniaid yn wreiddiol. Roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Lydia dan y brenin Croesus, yna dan reolaeth yr Ymerodraeth Bersaidd pan orchfygwud Croesus gan y Persiaid. Mae'n ymddangos eu bod wedi dod yn deyrnas annibynnol hyd yn oed cyn i Alecsander Fawr orchfygu Persia.

Daeth y brenin olaf, Nicomedes IV, dan fygythiad o du Mithridates VI, brenin Pontus, a bu raid iddo ddibynnu ar fyddin Gweriniaeth Rhufain i'w adfer i'w orsedd. Pan fu farw yn 74 OC, gadawodd ei deyrnas i Rufain yn ei ewyllys.

Fel talaith Rufeinig, roedd ffiniau Bithynia yn amrywio, ac ar brydiau fe'i cyfunid a talaith Pontus.