Afon Rheidol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Siswrn (sgwrs | cyfraniadau) B tacluso |
B robot Adding: br:Rheidol |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
[[Categori:Afonydd Cymru|Rheidol]] |
[[Categori:Afonydd Cymru|Rheidol]] |
||
[[br:Rheidol]] |
|||
[[en:River Rheidol]] |
[[en:River Rheidol]] |
Fersiwn yn ôl 00:23, 6 Rhagfyr 2007
Mae Afon Rheidol yn afon yng nghanolbarth Cymru.
Mae tarddle Afon Rheidol yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr Nant y Moch (ger safle brwydr Hyddgen, 1401) ar lethrau gorllewinol Pumlumon ac yna'n llifo tua'r de trwy bentref Ponterwyd cyn i Afon Mynach ymuno â hi. Yn fuan ar ôl cymer Afon Mynach, mae Rheidol yn disgyn dros raeadr wrth ymyl pentref Pontarfynach. Mae yn awr yn llifo tua'r gorllewin heibio i hen gloddfa blwm Cwm Rheidol. Er bod y gloddfa yma wedi cau, mae'n parhau i effeithio ar ddŵr Afon Rheidol. Mae'r afon yn awr yn parhau tua'r gorllewin ac yn cyrraedd y môr yn harbwr Aberystwyth.