Cronfa Nant-y-moch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Nant y Moch)
Jump to navigation Jump to search
Cronfa Nant-y-moch
Nant y Moch dam Dec 31 2004.JPG
Math Cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.4681°N 3.8394°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Elenydd Edit this on Wikidata

Cronfa ddŵr yng Ngheredigion yw Cronfa Nant-y-moch, a leolir ychydig i'r gorllewin o gopa Pumlumon. Ffurfiwyd y gronfa, sydd ag arwynebedd o 66.8 cilometr sgwar, yn 1964 trwy adeiladu argae ar draws Afon Rheidol. Saif yr argae rhyw dair milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd ym mryniau Elenydd.

Enwir y gronfa ar ôl ffrwd fechan Nant-y-moch, un o ledneintiau Afon Rheidol, nant a roddodd ei enw i bentref bychan Nant-y-moch hefyd. Adeiladwyd y gronfa fel rhan o gynllun trydan dŵr Cwm Rheidol. Boddwyd pentref Nant-y-Moch a symudwyd y cyrff o'r fynwent i fynwent Ponterwyd. Symudwyd nifer o garneddi o Oes yr Haearn gan archaeolegwyr hefyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.