Newidiadau

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 4 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
[[Delwedd:Gerry Adams reading into mic.jpg|bawd|200px|Gerry Adams]]
 
Mae '''Sinn Féin''' yn enw sydd wedi ei ddefnyddio gan nifer o bleidiau cenedlaethol Gwyddelig, bob un yn hawlio bod yn olynydd i'r blaid wreiddiol a ffurfiwyd gan [[Arthur Griffith]] yn 1905. Mae'r enw'n golygu "Ni'n hunain" mewn [[Gwyddeleg]].
 
Daeth llwyddiant etholiadol i'r blaid yn dilyn [[Gwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]]. Pan ryddhawyd y rhai oedd yn weddill o arweinwyr y gwrthryfel yn 1917, daethant yn amlwg yn Sinn Féin, gyda [[Éamon de Valera]] yn cymeryd lle Griffith fel arweinydd.
 
Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918]], enillodd Sinn Féin 73 o'r 106 sedd yn Iwerddon, gan gymeryd lle'r [[Y Blaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] fel arweinwyr y mudiad cenedlaethol. Yn unol a pholisi'r blaid, gwrthododd yr aelodau gymeryd eu seddau yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]]. Yn hytrach, ar [[21 Ionawr]] 1919, cyfarfu 30 o aelodau seneddol Sinn Féin (roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi eu carcharu) yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - [[Dáil Éireann]]. Arweiniodd hyn at ryfel annibyniaeth Iwerddon a sefydlu gwladwriaeth annibynnol Iwerddon.
 
Yn y cyfnod modern, mae'r enw'n cyfeirio fel rheol at y blaid a grewyd yn 1970 o ganlyniad i hollt yn y mudiad gweriniaethol yn [[Iwerddon]]. Yr arweinydd presennol yw [[Gerry Adams]]. Sinn Féin yw'r fwyaf o'r pleidiau cenedlaethol yng [[Cynulliad Gogledd Iwerddon|Nghynulliad Gogledd Iwerddon]], gyda 28 sedd allan o 108. Mae gan y blaid 5 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin, ond ei pholisi, fel polisi Sinn Féin gwreiddiol Arthur Griffith, yw i'r aelodau wrthod cymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn etholiad 2007 yng [[Gweriniaeth Iwerddon|Ngweriniaeth Iwerddon]], enillodd Sinn Féin 4 sedd allan o 166 yn [[Dáil Éireann]], gostyngiad o un sedd.
 
Yn [[Senedd Ewrop]], mae Sinn Féin yn aelod o'r grŵp seneddol Ewropeaidd y [[Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig]].
345,788

golygiad

Llywio