Marchogion yr Ysbyty: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif → 15g, 11eg ganrif → 11g using AWB |
B →Cymru: clean up |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
{{eginyn Cristnogaeth}} |
{{eginyn Cristnogaeth}} |
||
{{eginyn hanes}} |
{{eginyn hanes}} |
||
[[Categori:Marchogion yr Ysbyty| ]] |
[[Categori:Marchogion yr Ysbyty| ]] |
Fersiwn yn ôl 07:58, 13 Mawrth 2017
Urdd sifalriaidd a sefydlwyd yn Jeriwsalem yn yr 11g oedd Marchogion yr Ysbyty (neu'r Ysbytywyr; Ffrangeg Hospitaliers), a adnabyddir hefyd gan ei enw llawn Urdd Marchogion Ysbyty Sant Ifan a Jeriwsalem. Urdd grefyddol filwrol ydoedd. Fe'i sefydlwyd gyda'r bwriad o hyrwyddo'r Croesgadau yn y Tir Sanctaidd a chynorthwyo pererinion i ymweld â chysegrfannau Cristnogol yn y Lefant.
Hanes
Cychwyn yr urdd oedd sefydlu ysbyty ar gyfer pererinion yn Jeriwsalem tua'r flwyddyn 1070. Wrth i'r croesgadu dyfu ac ymledu chwareai'r urdd ran fwy milwrol. Cyn hir roedd yr Ysbytywyr yn gyfoethog iawn. Eu cystadleuwyr pennaf oedd urdd y Templariaid.
Ar ôl cwymp dinas Acre yn 1291 ymsefydlasant yn Nghyprus, Rhodes a Malta.
Cymru
Mae enw pentref Ysbyty Ifan (Sir Conwy), 6 milltir i'r de-ddwyrain o Fetws-y-Coed, yn nodi'r ffaith fod un o "ysbytai" yr urdd yno. Fe'i sefydlwyd yn y flwyddyn 1190 gan Ifan Frys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Roedd gan yr ysbyty, a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac arweiniodd hynny i sawl herwr ymguddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15g pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn iddo.