Rhaeadr Niagara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Gweler hefyd: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|ast}} (2) using AWB |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ |
[[Delwedd:Niagara falls - Winter - Prospect point view at night.jpg|bawd|Rhaeadr Niagara.]] |
||
[[Rhaeadr]] enwog sy'n gorwedd ar y ffin rhwng [[Canada]] a'r [[Unol Daleithiau]] yw '''Rhaeadr Niagara''' ([[Saesneg]]:''Niagara Falls''; [[Ffrangeg]]: ''Chutes du Niagara''). Mae'r enw 'Niagara' yn tarddu o'r gair Iroquois 'Onguiaahra' sydd yn golygu 'culfor'<ref>[http://www.niagarafallslive.com/Facts_about_Niagara_Falls.htm, Gwefan niagarafallslive]</ref>. |
[[Rhaeadr]] enwog sy'n gorwedd ar y ffin rhwng [[Canada]] a'r [[Unol Daleithiau]] yw '''Rhaeadr Niagara''' ([[Saesneg]]:''Niagara Falls''; [[Ffrangeg]]: ''Chutes du Niagara''). Mae'r enw 'Niagara' yn tarddu o'r gair Iroquois 'Onguiaahra' sydd yn golygu 'culfor'<ref>[http://www.niagarafallslive.com/Facts_about_Niagara_Falls.htm, Gwefan niagarafallslive]</ref>. |
Fersiwn yn ôl 14:58, 7 Ionawr 2017
Rhaeadr enwog sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau yw Rhaeadr Niagara (Saesneg:Niagara Falls; Ffrangeg: Chutes du Niagara). Mae'r enw 'Niagara' yn tarddu o'r gair Iroquois 'Onguiaahra' sydd yn golygu 'culfor'[1].
Mae'r rhaeadr, sydd mewn gwirionedd yn gyfres o 3 rhaeadrau cysylltiedig, ar Afon Niagara rhwng Llyn Erie a Llyn Ontario. Ar ei mwyaf mae'n 43m o uchder. Darganfuwyd y rheadr ym 1678 gan Ffrancwr, Tad Louis Hennepin.[2]. Llifa tua 150,000 o alwyni o ddŵr dros y rhaeadrau Americanaidd, a 600,000 o galwyni dros y rhaeadr Ganadiaidd[3] er ailgyfeiriwyd rhwng 50 a 75 y cant o'r dŵr i orsafoedd pŵer yn hytrach na dros y rhaeadrau. Parc Genedlaethol Rhaeadr Niagara yw'r hynaf yn yr Unol Daleithiau[4]
-
Ceunant Niagara
-
Rhaeadr Niagara yn y gaeaf
-
Afon Niagara uwchben y Rhaeadr
-
Y rhaeadrau
Ceir dwy ddinas o'r enw Niagara Falls, yn wynebu'i gilydd dros yr afon, un ohonynt yn nhalaith Efrog Newydd a'r llall yn nhalaith Ontario, yng Nghanada. Cynhelir teithiau yn y cwch 'Maid of the Mist' islaw'r rhaeadr, ar ochr yr Unol Daleithiau.
Dyma rigwm T.H. Parry-Williams a gyfansoddodd ar ymweliad â'r llecyn ar ddechrau'r 1930au:
- 'Roedd enfys fore ar y tawch a'r stŵr
- Yng ngwynder dymchwel disgynfa'r dŵr,
- A'm llygaid innau'n ei chael yn eu tro
- Yn 'sgytwad na chollir o gorff na cho'.
- Ysigol yw gwyrthiau'r ddaear ar ddyn
- Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- [http://www.niagara-usa.com/ Gwefan Niagara (Unol Daleithiau)
- [http://niagarafallstourism.com/ Gwefan Niagara (Canada)