Nanga Parbat: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
lleoliad |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
| maint_darlun =200px |
| maint_darlun =200px |
||
| caption ='''Nanga Parbat''' o "Faes y Tylwyth Teg" |
| caption ='''Nanga Parbat''' o "Faes y Tylwyth Teg" |
||
| lleoliad = [[Pacistan]] |
|||
| uchder =8,125m |
| uchder =8,125m |
||
| gwlad =Pacistan |
| gwlad =Pacistan |
Fersiwn yn ôl 15:51, 13 Mehefin 2015
Nanga Parbat Himalaya | |
---|---|
Llun | Nanga Parbat o "Faes y Tylwyth Teg" |
Uchder | 8,125m |
Lleoliad | Pacistan |
Gwlad | Pacistan |
Nanga Parbat (gelwir hefyd Diamir) yw'r mynydd ail-uchaf ym Mhacistan a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith Wrdw/Hindi. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif bu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr Himalaya.
Gwnaed yr ymdrech gyntaf i ddringo'r mynydd yn 1895 pan gyrhaeddodd ymgyrch dan arweiniaid Albert F. Mummery uchder o bron 7,000 m, ond bu farw Mummery a dau gydymaith ar y mynydd yn ddiweddarch. Yn y 1930au bu chwech ymgais i ddringo'r mynydd gan dîmau Almaenig, ond methu a wnaeth y cafan a bu farw dwsinau o ddringwyr. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf ar 3 Gorffennaf, 1953 gan fynyddwr o Awstria, Hermann Buhl. Mae'r modd y dringodd Buhl ar ei ben ei hun i'r copa, ac yna treulio noson ar ei sefyll ar y mynydd ar y ffordd i lawr, yn un o straeon mawr mynydda.
Dringwyd y mynydd am yr ail dro yn 1962 gan dri Almaenwr, Toni Kinshofer, S. Löw, ac A. Mannhardt. Yn 1970 cyrhaeddodd Reinhold a Günther Messner y copa; ond bu farw Günther ar y ffordd i lawr. Dringodd Reinhold y mynydd ar ei ben ei hun yn 1978. Yn 1984, Lilliane Barrard o Ffrainc oedd y ferch gyntaf i gyrraedd y copa.
Y 14 copa dros 8,000 medr |
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |