John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 24: Llinell 24:
[[Categori:Genedigaethau 1818]]
[[Categori:Genedigaethau 1818]]
[[Categori:Ieithyddion Cymreig]]
[[Categori:Ieithyddion Cymreig]]
[[Categori:Llanidan]]
[[Categori:Marwolaethau 1898]]
[[Categori:Marwolaethau 1898]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]

Fersiwn yn ôl 00:54, 20 Mai 2015

Llechen goffa John Jones

Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]

Bywgraffiad

Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]

Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[1]

Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog yn ail hanner y 19eg ganrif am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol Men of Invention and Industry (1884).[2]

Bu farw ym Mangor yn 1898.[1]

Llyfryddiaeth

  • Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
  • Samuel Smiles, Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  2. 2.0 2.1 Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.