Pleidleisio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Delwedd:Pleidlais amgen.PNG |
cy |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Delwedd:Pleidlais amgen.PNG|bawd|chwith|120px|Papur 'Pleidlais Amgen']] |
[[Delwedd:Pleidlais amgen.PNG|bawd|chwith|120px|Papur 'Pleidlais Amgen']] |
||
Rhoddir un croes ar [[papur pleidleisio|bapur pleidleisio]] i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir y lleiafrif. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP mewn lleiafrif ym mhob etholaeth. Yn genedlaethol roedd ganddynt lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir [[system bleidleisio gynrychioladol]]. Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod. |
Rhoddir un croes ar [[papur pleidleisio|bapur pleidleisio]] i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir y lleiafrif. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP mewn lleiafrif ym mhob etholaeth. Yn genedlaethol roedd ganddynt lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir [[system bleidleisio gynrychioladol]]. |
||
Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod. |
|||
Math arall o system bleidleisio pan fo angen sawl cynrychiolydd yw [[pleidlais amgen]] (''Instant-runoff voting''), sy'n fath o [[Pleidleisio ffafriol|bleidlais ffafriol]], lle nodir dewis y person drwy roi rhif ar y papur pleidleisio. |
Math arall o system bleidleisio pan fo angen sawl cynrychiolydd yw [[pleidlais amgen]] (''Instant-runoff voting''), sy'n fath o [[Pleidleisio ffafriol|bleidlais ffafriol]], lle nodir dewis y person drwy roi rhif ar y papur pleidleisio. |
||
[[Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad]] yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad. |
|||
==Cynulliad Cenedlaethol Cymru== |
|||
Cynhelir etholiadau i'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] pob pedair mlynedd i ethol 60 o [[Aelodau Cynulliad]]. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ACau mewn etholaethau unigol trwy'r system gyntaf i'r felin, ac un sy'n dewis 20 o ACau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AC, ar sail cyfrannolaeth y bleidlais, ar gyfer pob rhanbarth. |
|||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 06:09, 1 Mai 2015
Mae pleidleisio neu fwrw pleidlais yn fodd i grŵp neu etholaeth wneud penderfyniad neu fynegi barn — yn aml yn dilyn trafodaethau, dadleuon neu ymgyrch etholiadol.
Mae'r rhan fwyaf o ddemocratiaethau yn penderfynu barn y bobl drwy bleidleisio cyffredin. Dyma'r dull symlaf o ddewis person neu bersonau: er enghraifft, mewn etholiadau cyffredinol ar gyfer dewis cynrychiolwyr yn Nhŷ'r Cyffredin, defnyddir y system yma, sef: System etholiadol 'y cyntaf i'r felin' (neu: 'y cyntaf heibio'r postyn'), lle dewisir un person ar gyfer un darn o dir (yr etholaeth).
Rhoddir un croes ar bapur pleidleisio i nodi'r person a ddewisir. Gwendid y broses yma o ddewis un person ar gyfer un etholaeth yw y diystyrir y lleiafrif. Gwelwyd hyn yng Nghymru am flynyddoedd, pan roedd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP mewn lleiafrif ym mhob etholaeth. Yn genedlaethol roedd ganddynt lawer o bleidleisiau, ond nifer bychan iawn o Aelodau Seneddol. Er mwyn gwella'r system syml yma, defnyddir system bleidleisio gynrychioladol.
Yn y rhan fwyaf o wledydd gwneir hyn yn gyfrinachol, a pherchir yr hawl i gadw'r wybodaeth i bwy y pleidleisodd person yn gyfrinachol. Gelwir yr adeilad lle bwrir y bleidlais yn 'orsaf bleidleisio' a all fod yn ysgol, neuadd bentref neu ystafell gyfarfod.
Math arall o system bleidleisio pan fo angen sawl cynrychiolydd yw pleidlais amgen (Instant-runoff voting), sy'n fath o bleidlais ffafriol, lle nodir dewis y person drwy roi rhif ar y papur pleidleisio.
Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad yw canran y pleidleiswyr cymwys sy'n bwrw pleidlais mewn etholiad.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynhelir etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol pob pedair mlynedd i ethol 60 o Aelodau Cynulliad. Mae gan bledileiswyr ddwy bleidlais: un sy'n dewis 40 o ACau mewn etholaethau unigol trwy'r system gyntaf i'r felin, ac un sy'n dewis 20 o ACau ar gyfer y rhanbarthau (Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru, Gorllewin De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru) – etholir pedwar AC, ar sail cyfrannolaeth y bleidlais, ar gyfer pob rhanbarth.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau