Kenneth Waltz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Cyfeiriadau: Awdurdod |
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Waltz, Kenneth}} |
{{DEFAULTSORT:Waltz, Kenneth}} |
||
Llinell 21: | Llinell 23: | ||
{{eginyn Americanwr}} |
{{eginyn Americanwr}} |
||
{{eginyn cysylltiadau rhyngwladol}} |
{{eginyn cysylltiadau rhyngwladol}} |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 10:15, 26 Ebrill 2015
Ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol o Americanwr sy'n gysylltiedig â damcaniaeth neo-realaeth oedd Kenneth Neal Waltz (8 Mehefin 1924 –12 Mai 2013).[1][2] Roedd yn athro ym Mhrifysgol Columbia. Ei lyfr enwocaf yw Man, the State, and War (1959) a gyflwynodd y cysyniad o lefelau dadansoddi i faes cysylltiadau rhyngwladol. Bathwyd y term "lefelau dadansoddi" gan J. David Singer yn ei adolygiad o'r llyfr yn y cyfnodolyn World Politics yn Ebrill 1960. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion rhyfel: yr unigolyn, lle bo natur ddynol yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo anllywodraeth yn gwneud rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel.
Ysgrifennodd hefyd Theory of International Politics (1979) gan ymhelaethu ar y syniad o fyd deubegynol gyda dau brif rym, sef yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Ym 1995 cyhoeddwyd The Spread of Nuclear Weapons: A Debate, sef trafodaeth am arfau niwclear rhwng Waltz a'r Athro Scott Sagan o Brifysgol Stanford.
Yn 2008 cynhalodd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gynhadledd academaidd er anrhydedd i Waltz, "The King of Thought: Theory, the Subject and Waltz".[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Martin, Douglas (18 Mai 2013). Kenneth Waltz, Foreign-Relations Expert, Dies at 88. The New York Times. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
- ↑ (Saesneg) Langer, Emily (21 Mai 2013). Kenneth N. Waltz, scholar of international relations, dies at 88. The Washington Post. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.