Griffith Jones, Llanddowror: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
B 4 gweithred, replaced: ==Darllen pellach== → == Llyfryddiaeth ==, {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 10: Llinell 10:
Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng [[Cymru|Nghymru]] cyn hynny ers [[diddymu'r mynachlogydd]].
Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng [[Cymru|Nghymru]] cyn hynny ers [[diddymu'r mynachlogydd]].


== Llyfryddiaeth ==
==Darllen pellach==
*Gwyn Davies, ''Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl'' (1984)
*Gwyn Davies, ''Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl'' (1984)
*Geraint H. Jenkins, ''Hen filwr dros Grist'' (1983)
*Geraint H. Jenkins, ''Hen filwr dros Grist'' (1983)
Llinell 19: Llinell 19:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

{{Rheoli awdurdod}}


{{DEFAULTSORT:Jones, Griffith}}
{{DEFAULTSORT:Jones, Griffith}}
Llinell 29: Llinell 31:


{{eginyn Cymry}}
{{eginyn Cymry}}

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 06:54, 26 Ebrill 2015

Gweler hefyd Griffith Jones (actor)

Griffith Jones

Griffith Jones (16838 Ebrill 1761), a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror, oedd sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.

Roedd yn frodor o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a'i ordeinio ym 1708. Ym 1716 cafodd reithoriaeth ym mhentref Llanddowror. Bu'n aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Ym 1731 dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen i ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i'w mynychu. Dysgai'r ysgolion blant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r Beibl Cymraeg a thrwy adrodd Catecism Eglwys Loegr. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan Bridget Bevan, merch y dyngarwr, John Vaughan (1633-1772), a'i chysylltiadau ariannog yn Llundain a Chaerfaddon. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, Welsh Piety;[1] ynddynt byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian.[2] Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf llythrennog y byd.

Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng Nghymru cyn hynny ers diddymu'r mynachlogydd.

Llyfryddiaeth

  • Gwyn Davies, Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl (1984)
  • Geraint H. Jenkins, Hen filwr dros Grist (1983)
  • R. T. Jenkins, Griffith Jones, Llanddowror (1930)
  • D. Ambrose Jones, Griffith Jones, Llanddowror (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.
  • E. Wyn James, ‘Griffith Jones (1684–1761) of Llanddowror and His “Striking Experiment in Mass Religious Education” in Wales in the Eighteenth Century’, yn Volksbildung durch Lesestoffe im 18. und 19. Jahrhundert / Educating the People through Reading Material in the 18th and 19th Centuries, gol. Reinhart Siegert (Bremen, Yr Almaen: Edition Lumière, 2012), 275-92. ISBN 978-3-943245-03-5.

Cyfeiriadau

  1. Jones, Griffith (Griffith Jones, Llanddowror, 1683-1761) (1753?). Welsh Piety: or, a collection of the several accounts of the circulating Welch charity schools: from their first rise in the year of 1737, to Michaelmas, 1753: in several letters to a friend. London: Printed by J. Oliver. Check date values in: |year= (help)CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Davies, J. (1992). Hanes Cymru. London: Penguin Books. ISBN 0-14-012570-1.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.