Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cymru: Y diaspora Cymraeg
{{Comisiynydd}}
Llinell 29: Llinell 29:
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd [[Americanwyr Cymreig|mewnfudo i America o Gymru]]. Symudodd llawer o [[Crynwyr|Grynwyr]] Cymreig i [[Pennsylvania|Bennsylvania]].
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd [[Americanwyr Cymreig|mewnfudo i America o Gymru]]. Symudodd llawer o [[Crynwyr|Grynwyr]] Cymreig i [[Pennsylvania|Bennsylvania]].


{{Comisiynydd}}
[[Categori:Mewnfudo| ]]
[[Categori:Mewnfudo| ]]
[[Categori:Mudo dynol]]
[[Categori:Mudo dynol]]

Fersiwn yn ôl 05:27, 20 Hydref 2014

Mewnfudo nett 2006 - positif (glas) a negyddol (oren)

Mewnfudo yw symud i mewn i wlad i fyw ynddi, gan unigolyn neu unigolion o wlad arall. Oherwydd y problemau cymdeithasol sy'n gallu codi pan fo nifer fawr o bobl yn mewnfudo mae'n bwnc llosg mewn sawl gwlad.

Mewn cyd-destun Prydeinig, ac yn arbennig yn achos Lloegr, mae nifer o bobl yn pryderu am y mewnfudo o wledydd Asiaidd a'r Caribî. Mae hynny wedi bod yn faes ffrwythlon i fudiadau asgell-dde fel y BNP a UKIP sy'n ceisio elwa ar hiliaeth. Mae ymateb llywodraeth Prydain i hyn wedi amrywio dros y blynyddoedd. Dadleuodd Tony Blair fod angen rheoli mewnfudo, yn arbennig yn achos ceiswyr noddfa. Cymhlethir y sefyllfa gan y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a'r alwad am gyflwyno cardiau cydnabod.

Cymru

Y ganran o'r boblogaeth, yn ôl gwlad enedigol, 1951–2001. Cyfrifiad 2001.
Map yn dangos y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 ar sail y rhai oedd wedi eu geni yng Nghymru yn unig.

Yng Nghymru mae'r ymateb yn wahanol gan fod canran uchel o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i Gymru (yn enwedig y Fro Gymraeg) gan beryglu dyfodol yr iaith yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathu â'r gymuned, a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r asgell-chwith genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Dau o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn oedd y mudiad Adfer (1970au a'r 80au) a Cymuned (2001-2009).

Erbyn Cyfrifiad 2001 roedd y duedd yn glir: mae'r ganran o'r boblogaeth sydd wedi'u geni y tu allan i Gymru'n cynyddu. Yn 2001 roedd 25% o boblogaeth Cymru wedi eu geni y tu allan i'r wlad. Roedd 21% wedi eu geni yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. O’r rhai a anwyd yng Nghymru, roedd 24.7% yn gallu siarad Cymraeg. O’r rhai a anwyd y tu allan i Gymru, 9.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Er bod mewnfudo blynyddol wedi lleihau ers ei uchafbwynt diweddar yn 2002, mewnfudodd dros 55 mil o bobl o weddill y Deyrnas Unedig yn flynyddol ar gyfartaledd rhwng 1991 a 2001 (fel cymhariaeth: mae poblogaeth Merthyr Tudful o gwmpas 56 mil). Crynswth y mewnfudo yw hwnnw. Mae pobl wedi bod yn symud allan bob blwyddyn hefyd ond gan fod llai wedi bod yn symud allan bob blwyddyn nag sydd wedi bod yn symud i mewn, mae mewnfudo net positif wedi digwydd yn flynyddol.

Gan nad oes cymunedau brodorol o siaradwyr Cymraeg tramor—ag eithriad Gwladfa'r Ariannin efallai—di-Gymraeg fydd mwyafrif mawr y mewnfudwyr pryn ai o wledydd eraill Prydain neu o dramor y byddant yn dod. Cymry Cymraeg sy'n dychwelyd ar ôl allfudo mewn blynyddoedd blaenorol fydd y mwyafrif mawr o'r siaradwyr Cymraeg sy'n mewnfudo'n amlwg. Gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2001 gallwn amcangyfrif bod 3,600 o siaradwyr Cymraeg wedi mewnfudo i Gymru yn ystod y 12 mis cyn y Cyfrifiad—yn bennaf, mae’n debyg, myfyrwyr Cymraeg yn dychwelyd i Gymru ar ôl astudio mewn prifysgol yn Lloegr. Hyd yn oed pe bai’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yn sefydlog, un canlyniad mewnfudo fyddai bod y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn gostwng.

Ond gallwn ddisgwyl bod allfudiad net o siaradwyr Cymraeg, hynny yw, mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn symud o Gymru nac sy’n symud yn ôl.

Allfudo o Gymru

Yn y 12 mis cyn Cyfrifiad 2001 amcangyfrifir fod 5,200 o siaradwyr Cymraeg wedi allfudo, gydag ychydig dros 30% yn allfudo a ddim yn dychwelyd. Yr hynsy'n arwyddocaol o ran cynaladwyedd y Gymraeg ymhlith poblogaeth Cymru yw bod allfudiad net. Golyga hynny bod yn rhaid, os am gynnal niferoedd presennol y siaradwyr, atgynhyrchu (trwy drosglwyddiad iaith rhwng y cenedlaethau) neu gynhyrchu (trwy addysg) mwy o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn nagsy’n marw, dim ond er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad.

Y diaspora Cymraeg

Canlyniad allfudo yw bod ‘Cymry ar wasgar’, hynny yw, bod poblogaeth o Gymry'n byw mewn gwledydd eraill a bod rhai ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Cymharol ychydig o wledydd sy'n cynnwys cwestiynau am ieithoedd yn eu cyfrifiadau ac os nad oes cwestiwn yn cael ei ofyn, rhaid dibynnu ar amcangyfrifon. Dyna sydd yn rhaid ei wneud yn achos Lloegr. Yn achos Canada, Awstralia, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau – rhai o'r gwledydd pwysicaf o ran allfudo o Gymru – mae peth tystiolaeth ar gael o'u cyfrifiadau. Ac eithrio Lloegr, niferoedd bychain o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn y gwledydd eraill ac nid ydynt yn ddigon mawr i’w hystyried fel poblogaethau a allai effeithio’n sylweddol ar ddemograffi Cymru wrth i siaradwyr, neu eu disgynyddion, ddychwelyd i Gymru ar ryw adeg. Er hynny, mae’n werth nodi nad oes data cyfrifiad ar gael o’r Ariannin ac felly nid oes amcangyfrif cadarn o faint sy’n siarad Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia. Mae’r amcangyfrif o 25,000 a ddyfynnir yn Ethnologue yn annhebygol o uchel. Amcangyfrif arall oedd bod o gwmpas 5,000 o siaradwyr yno yn ail ddegawd yr 20fed ganrif.

Mewnfudo i America o Gymru

Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd mewnfudo i America o Gymru. Symudodd llawer o Grynwyr Cymreig i Bennsylvania.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o wefan Comisiynydd y Gymraeg. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynydd am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.