Mari I, brenhines Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:MairI.JPG|bawd|200px| |
[[Delwedd:MairI.JPG|bawd|200px| Y Frenhines Mari Tudur]] |
||
Bu '''Mari I''' (neu '''Mari Tudur''') ([[18 Chwefror]] [[1516]] - [[17 Tachwedd]] [[1558]]) yn Frenhines [[Lloegr]] ac [[Iwerddon]] o [[19 Gorffennaf]] [[1553]] hyd at ei marwolaeth ym [[1558]]. Merch [[Harri VIII, brenin Lloegr]] a'i wraig gyntaf [[Catrin o Aragon]] oedd hi. |
Bu '''Mari I''' (neu '''Mari Tudur''') ([[18 Chwefror]] [[1516]] - [[17 Tachwedd]] [[1558]]) yn Frenhines [[Lloegr]] ac [[Iwerddon]] o [[19 Gorffennaf]] [[1553]] hyd at ei marwolaeth ym [[1558]]. Merch [[Harri VIII, brenin Lloegr]] a'i wraig gyntaf [[Catrin o Aragon]] oedd hi. |
||
Fersiwn yn ôl 22:36, 11 Ionawr 2014
Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 1516 - 17 Tachwedd 1558) yn Frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558. Merch Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon oedd hi.
Ar ôl ennill y goron ym 1553 ar farwolaeth ei brawd hŷn, Edward VI, penderfynodd Mari ailsefydlu Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru a Lloegr. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis Richard Davies. Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru, Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.
Priododd Felipe II, brenin Sbaen ar y 25 Gorffennaf 1554. Roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr.
Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru a Lloegr.
Ffynonellau
- Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
Rhagflaenydd: Edward VI |
Brenhines Lloegr 19 Gorffennaf 1553 – 17 Tachwedd 1558 |
Olynydd: Elisabeth I |
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol
Hanes
Cyn iddi droi'n frenhines cyntaf Lloegr, roedd Edward VI eisiau i'w gefnither ei ddilyn ef yn y rhes brenhinol. Ond ar ol brwydr hyr-dymor, ennillodd Mari y siawns i fod yn frenhines. Ond roedd ganddi barn cryf am ddewisiadau Edward am effiethiau crefyddol. Dewisiodd dilyn Catholigion, trwy ladd unrhyw un a oedd yn mynd yn erbyn ei dewisidau hi fel rheolwr y wlad. Yn anwedig y bobl protestanaidd a oedd yn erbyn credoau Catholigion am rheolau'r eglwys a sut i addoli a dilyn credoau Duw.
Mi roedd dadlau hir am bodoliaeth baban Mari a oedd gyda teimlad am bron flwyddyn cyn iddi deall fod nad baban oedd e ond cwympodd mewn i salwch, cyn ei marwolaeth sydyn.