Swra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: lt:Sura
YonaBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: bg:Сура
Llinell 129: Llinell 129:


[[ar:سورة]]
[[ar:سورة]]
[[bg:Сура]]
[[cs:Súra]]
[[cs:Súra]]
[[da:Sura]]
[[da:Sura]]

Fersiwn yn ôl 00:21, 7 Mehefin 2007

Sura 5, âya 12-13; llawysgrif o'r Coran a gopïwyd ym Moroco yn y 13eg ganrif

Pennod neu adran o'r Coran, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid yw Sŵra. Ystyr lythrennol y gair Arabeg sûrah yw "rheng, palisâd." Er mai "pennod" yw'r gair a arferir i'w gyfieithu nid yw'r Mwslemiaid yn ei ystyried felly oherwydd eu bod yn credu bod y Coran yn gyfanwaith perffaith, heb raniadau. Ceir 114 sŵra yn y Coran awdurdodedig ond ym mlynyddoedd cynnar Islam ceid peth amrywiaeth yn eu nifer a'u cynnwys. Ceir tri neu ragor o "benillion" (âya) ym mhob sŵra. Credir eu bod wedi eu cyfansoddi naill ai ym Mecca neu ym Medina, ac fe nodir hyn ar ddechrau pob sŵra mewn rhai argraffiadau o'r Coran. Nid ydynt wedi eu trefnu'n gronolegol, fel yn achos llyfrau'r Beibl, ond yn hytrach yn ôl ei gynnwys.

Mae'r sŵra gyntaf, Al-Fâtiha, yn fath o weddi agoriadol sy'n crynhoi credo'r Mwslim. Yna daw cyfres o sŵras cymharol hir sy'n ymwneud â chyfraith a dyletswyddau. Mae gweddill y sŵras, o rif 36 Sûratu Yâ-sîn ymlaen, yn tueddu i fod yn fyrrach o lawer ac yn fwy telynegol a chyfriniol eu naws; fe'u gelwir yn Rub'u Yâ-sîn a cheir argraffiadau ohonynt ar wahân dan yr enw hwnnw. Mae enwau'r sŵras yn fymryn mwy diweddar na'r testunau eu hunain ac yn tarddu o ganrif gyntaf yr Hegira, yr oes Islamaidd. Mae ystyr rhai o'r enwau yn dywyll (rhif 7, 8, 11, 15, 20, 31, 34, 36, 46, 47, 52, 106). Egyr pob sŵra namyn un (rhif 9) â'r basmala, sy'n fath o weddi neu alwad ar Dduw; Bismil Lâhi r-Rahmâni r-Rahîm, "Yn Enw Duw, y Maddeuol, y Trugarhaol".

Y Sŵras yn eu trefn arferol

    1. AL-FÂTIHA (Yr Agoriad)
    2. AL-BAQARA (Y Fuwch)
    3. AL-IMRÂNE (Teulu'r Imrân)
    4. AN-NISÂ (Y Merched)
    5. AL-MÂ'IDAH (Y Cymundeb)
    6. AL-AN'ÂME (Y Gwartheg)
    7. AL-A'RÂF
    8. AL-ANFÂL
    9. AT-TAWBAH (Yr Edifeirwch)
    10. YÛNUS (Jona)
    11. HÛD
    12. YÛSUF (Ioseff)
    13. AR-RA'D (Y Taran)
    14. IBRAHÎM (Abraham)
    15. AL-HIJR
    16. AN-NAHL (Y Gwenyn)
    17. AL-ISRÂ (Ymadael yn y Nos)
    18. AL-KAHF (Yr Ogof)
    19. MARIAM (Mair)
    20. TÂHÂ
    21. AL-ANBIYÂ (Y Proffwydion)
    22. AL-HAJJ (Y Bererindod)
    23. AL-MU'MINÛN (Y Credinwyr)
    24. AN-NÛR (Y Goleuni)
    25. AL-FURQÂN (Y Maen Prawf)
    26. AS-SU'ÂRÂ (Y Beirdd)
    27. AN-NAML (Y Morgrug)
    28. AL-QASAS (Y Chwedl)
    29. AL-'ANKABÛT (Y Pryf Copyn)
    30. AR-RÛM (Y Bysantiaid)
    31. LUQMÂN
    32. AS-SAJDAH (Yr Ymostyngiad)
    33. AL-AHZÂB (Y Pleidiau)
    34. SABA'
    35. FÂTIR (Yr Arloeswr)
    36. YÂ-SÎN
    37. AS-SÂFFÂT (Yr Angylion mewn Rheng)
    38. SÂD (llythyren yn yr wyddor Arabeg)
    39. AZ-ZUMAR (Y mae'r Rhai..)
    40. GAFÎR (..sy'n Maddau)
    41. FUSSILAT (..wedi eu Nodi)
    42. AS SÛRAH (Yr Ymgynghoriad)
    43. AZ-ZUHRUF (Yr Addurnau)
    44. AD-DUHÂN (Y Mŵg)
    45. AL-JÂTIYAH (Yr Ymostyngiedig)
    46. AL-AHQÂF
    47. MUHAMMAD (Mohamed)
    48. AL-FATH (Yr Agorawd Ddwyfol)
    49. AL-HUJURÂTE (Yr Ystafelloedd)
    50. QÂF (llythyren yn yr wyddor Arabeg)
    51. AD-DÂRIYÂTE (Y Gwyntoedd sy'n Gwasgaru)
    52. AT-TUR
    53. AN-NAJOUM (Y Seren)
    54. AL-QAMAR (Y Lleuad)
    55. AR-RAHMÂN (Y Trugarhaol)
    56. AL-WÂQI'AH (Y Digwyddiad)
    57. AL-HADÎD (Yr Haearn)
    58. AL-MUJÂDALAH (Yr Ymddiddan)
    59. AL-HASR (Y Cynulliad)
    60. AL-MUMTAHANAH (Y Dioddefwr)
    61. AS-SAFF (Y Rheng)
    62. AL-JUMU'AH (Dydd Gwener)
    63. AL-MUNÂFIQÛN (Y Rhagrithwyr)
    64. AT-TAGÂBUN (Y Twyll)
    65. AT-TALÂQ (Yr Ymwahaniad)
    66. AT-TAHRÎM (Y Gwaharddiad)
    67. AL-MULK (Y Deyrnas)
    68. AL-QALAM (Yr Ystîl Gorsen)
    69. AL-HAQQÂH (Yr Hyn sydd wedi ei Gadarnhau)
    70. AL-MA'ÂRIJ (Llwybrau'r Esgyniad)
    71. NÛH (Noa)
    72. AL-JINN (Y Djins)
    73. AL-MUZZAMMIL (Yr Amwisgedig)
    74. AL-MUDDATTIR (Y Gorchuddiedig)
    75. AL-QIYÂMÂ (Yr Atgyfodiad)
    76. AL-INSÂN (Y Bod Dynol)
    77. AL-MURSALÂT (Y Gwyntoedd Olynol)
    78. AN-NABÂ (Y Newyddion Da)
    79. AN-NÂZI'ÂT (Y Rhwygwyr)
    80. 'ABASA (Mae ef yn Gwgu)
    81. AT-TAKWÎR (Y Troelli)
    82. AL-INFITÂR (Yr Hollti)
    83. AL-MUTAFFIFÎN (Y Dichellwyr)
    84. AL-INSIQÂQ (Y Cracio)
    85. AL-BURÛJ (Y Cytserau)
    86. AT-TARIK (A Bery Gryndod)
    87. AL-A'LÂ (Y Goruchel)
    88. AL-GÂSIYAH (Y Rhyferthwy)
    89. AL-FAJR (Y Wawr)
    90. AL-BALAD (Y Ddinas)
    91. AS-SHAMS (Yr Haul)
    92. AL-LAYL (Y Nos)
    93. AD-DUHÂ (Y Bore)
    94. AS-SARH (Y Blodeuo)
    95. AT-TÎN (Y Goeden Ffigys)
    96. AL-'ALAQ (Y Pethau sy'n Gwrthdaro)
    97. AL-QADR (Noson y Mawredd)
    98. AL-BAYYINAH (Y Dystiolaeth)
    99. AZ-ZALZALAH (Y Crynu)
    100. AL-ÂDIYÂT (Y Meirch Rhyfel)
    101. AL-QÂRI'ÂH (Y Syfrdanol)
    102. AT-TAKÂTUR (Rhodres Cyfoeth)
    103. AL-'ASR (Yr Amser)
    104. AL-HUMAZAH (Yr Athrodwr)
    105. AL-FÎL (Yr Eliffant)
    106. QURAYSH
    107. AL-MÂ'ÛN (Y Cymorth)
    108. AL-KAWTAR (Y Digonedd)
    109. AL-KÂFIRÛN (Yr Anffyddwyr)
    110. AN-NASR (Y Fuddugoliaeth)
    111. AL-MASAD (Y Llach)
    112. AL-IHLÂS (Purdeb)
    113. AL-FALAQ (Yr Agendor)
    114. AN-NÂSS (Dyn)

Ffynonellau

    • Zeinab Abdelaziz (cyf.), Le Qur'ān / et la traduction en langue française du sens de ses versets (Tripoli, 2002). ISBN 9959280306
    • François Déroche, Éléments d'une histoire du Coran (Paris, 2005; arg. newydd, Tunis, 2006). ISBN 9973196708
    • Saïd M. Laham (cyf.), Le Saint coran[:] Rub'u Yâ-sîn (Beirut, 1995).