Gleidio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Hyfforddu Milwrol: Wedi copio fersiwn wedi gael ei cywiro gan Llewelyn2000 o dudalen Sgwadron Gleidio Gwirfoddol. Diolch Llewyelyn. |
|||
Llinell 67: | Llinell 67: | ||
* '''Y Tri Diamwntiau''': 500 cilomedr ar draws y wlad, 300 cilomedr nod ac 5,000 medr dringo |
* '''Y Tri Diamwntiau''': 500 cilomedr ar draws y wlad, 300 cilomedr nod ac 5,000 medr dringo |
||
=== Rhaglen hyffordi y Cadetiaid Awyr === |
|||
== Rhaglenni hyfforddu == |
|||
Mae Cadetiaid Awyr rhwng 13-18 oed yn derbyn hyfforddiant: |
Mae Cadetiaid Awyr rhwng 13-18 oed yn derbyn hyfforddiant wrth y [[Sgwadron Gleidio Gwirfoddol|Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol]]: |
||
* '''Cwrs Sefydlu Gleidio''':<ref>{{eicon en}} [http://www.raf.mod.uk/aircadets/whatwedo/glidinginductioncourse.cfm Cadetiaid Awyr - Cwrs Sefydlu Gleidio]</ref> |
* '''Cwrs Sefydlu Gleidio''':<ref>{{eicon en}} [http://www.raf.mod.uk/aircadets/whatwedo/glidinginductioncourse.cfm Cadetiaid Awyr - Cwrs Sefydlu Gleidio]</ref> |
||
:* '''Cwrs Sefydlu Gleidio 1''': Hedfan am 20 munud (neu 3 hedfaniad) i ddysgu "pitch" yr awyren |
:* '''Cwrs Sefydlu Gleidio 1''': Hedfan am 20 munud (neu 3 hedfaniad) i ddysgu "pitch" yr awyren |
Fersiwn yn ôl 17:40, 29 Awst 2013
Gweithgaredd hamdden a chwaraeon cystadleuaeth rhyngwladol yw gleidio, efo peilotydd yn hedfan gleidr (awyren heb beiriant). Sylweddolodd Syr George Cayley ym 1853 sut i wneud peiriant sy'n drymach na'r awyr hedfan. Datblygodd y Brodyr Wright ar hynny pan greon nhw yr awyren gyntaf wedi'i phweru gan injan.
Datblygodd Gleidio fel chwaraeon yn y 1920au – yn dechrau gyda hedfan am fwy o amser, ac wedyn i hedfan am fwy o bellder dros y wlad. Trwy wella dealltwriaeth o aerodynameg a'r tywydd, gellir hedfan pellach a chyflymach erbyn hyn. Mae hedfan am bellder hir iawn yn bosib trwy hedfan mewn awyr sy'n codi ac mae hedfan am fwy na 1,000 cilomedr yn bosib. Mae peilotydd yn gallu gweithio i ennill cymwysterau a bathodynnau i ddangos ei sgiliau.
Mae gleidio cystadleuol yn boblogaidd iawn hefyd efo llawer o gystadlaethau lleol a rhanbarthol ar draws y byd, gyda Cystadleuaeth y Byd bob yn ail flwyddyn.
Safleoedd gleidio
Ceir sawl lle i hedfan yng Nghymru oherwydd mae llawer o gribau mynydd yn y wlad. Ceir pum cangen o'r Clwb Gleidio Prydeinig yn Talgarth, Cwm Nedd, Brynbuga, Dinbych a Llandegla sy'n croesawu'r cyhoedd i hedfan gyda nhw. Ceir dau Sqwadron Gleidio Cadetiaid Awyr; un yn Sain Tathan (ger Caerdydd) ac un arall ym Mhenryn Gŵyr (ger Abertawe).
Pwy | Lle | Gleidr |
---|---|---|
634 VGS | Sain Tathan | Vigilant T1 |
636 VGS | Abertawe | Vigilant T1 |
Clwb Gleidio Cwm Nedd | Rhigos | ?? |
Clwb Gleidio De Cymru | Brynbuga | K13 Grob 103 Twin Astir K8 Grob G102 Astir |
Clwb Gleido Dinbych | Lleweni Parc | Venture |
Clwb Gleido Gogledd Cymru | Llandegla | ?? |
Clwb Gleidio Mynydd Du | Talgarth | K13 K21 K6 SZD-30 Pirat SZD-51 Junior |
Dysgir i hedfan gleidr
Os chi'n gallu gyrru car, wedyn mae'n siwr o fod chi'n gallu hedfan gleidr. Dyw e ddim rhy anodd oherwydd dyw y gleidr ddim yn cymhleth. Does dim angen am fwy na llythyr o dy meddyg and gleidio ydy un o'r ffordd rhata i dysgu sut i hedfan[1].
Hyfforddu Cyhoedd Prydeinig
Y her cyntaf i bob peilot yw i hedfan ar eu ben eu hunan. Ar ol hynny, mae Cymdeithas Gleidio Prydeinig yn rhoi sawl o cymwysterau:
- Y Bathodyn A: dros y hedfan cyntaf ar dy ben dy hunan
- Bathodyn Efydd[2]: fod â gwybodaeth dda o reolau yr awyr, ac i allu hedfan i'r safon efydd
- Tystysgrif Traws Gwlad[2]: i fod yn gallu llywio traws gwlad ac i fod yn gallu dewis a glanio mewn cae
- Licence Peilot Gleidr[3]: wedi gael Bathodyn Efydd ac y Tystysgrif Traws Gwlad
- Bathodyn 100 Cilomedr: rhywbeth y creu bont rhwng Yr Arian a'r Aur trwy hedfan 100 o gilomedr
- Bathodyn Aerobateg[4]: pedwar lefel - safonol, chwaraeon, canolradd, anghyfyngedig
Mae Fédération Aéronautique Internationale[5] yn cyfrifol am dri bathodyn rhyngwladol - yr arian, yr aur ac y tri diamwntiau. I ennill bob un yn cymryd:
- Yr Arian: 5 awr hedfan, 50 cilomedr ar draws y wlad ac 1,000 medr dringo
- Yr Aur: 5 awr hedfan, 300 cilomedr ar dras y wlad ac 3,000 medr dringo
- Y Tri Diamwntiau: 500 cilomedr ar draws y wlad, 300 cilomedr nod ac 5,000 medr dringo
Rhaglen hyffordi y Cadetiaid Awyr
Mae Cadetiaid Awyr rhwng 13-18 oed yn derbyn hyfforddiant wrth y Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol:
- Cwrs Sefydlu Gleidio:[6]
- Cwrs Sefydlu Gleidio 1: Hedfan am 20 munud (neu 3 hedfaniad) i ddysgu "pitch" yr awyren
- Cwrs Sefydlu Gleidio 2: Hedfan am 25 munud (neu 4 hedfaniad) i ddysgu "roll" yr awyren
- Cwrs Sefydlu Gleidio 3: Hedfan am 30 munud (neu 5 hedfaniad) i ddysgu "yaw" yr awyren a "stall"
- Ysgoloriaeth Gleidio:[7]
- Adenydd Glas: hedfan am 8 awr (neu 40 hedfaniad) i ddysgu popeth am hedfan yr awyren (yn gadael, hedfan yn syth, troi'r awyren, glanio, ac ati). Ar ôl iddo orffen y cwrs, bydd y cadet yn derbyn yr adenydd glas
- Adenydd Arian: nifer o gadetiaid yn gorffen yr ysgoloriaeth gleidio ac yn symud ymlaen i hedfan ar ei ben ei hunan ac ennill y cyfle i dderbyn yr adenydd arian
- Hyfforddiant Gleidio Uwch (adenydd aur): Ar ôl i gadetiaid orffen yr Ysgoloriaeth Gleidio, efallai bydd cyfleoedd am hyfforddiant gleidio drwy ymuno â'r sgwadron a gwella'u sgiliau.
- Peilot Gradd:
- Gradd 2: Peilot sy wedi pasio prawf ac wedi cymwyso i hedfan dan oruchwyliaeth
- Gradd 1: Peilot sy'n gallu cario disgyblion ac yn gallu dysgu ar y Cyrsiau Sefydlu Gleidio
- Hyfforddwyr:
- Hyfforddwr B2: Hyfforddwr dan goruchwyliaeth sy'n gallu dysgu'r Ysgoloriaeth Gleidio
- Hyfforddwr B1: Hyfforddwr profiadol
- Hyffordwr A2/1: Hyfforddwr uwch
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Pris i dysgu tan fynd ar eich ben eich hunan
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Cymdeithas Gleidio Prydeinig - y Bathodyn Efydd a'r Dystysgrif Traws Gwlad
- ↑ (Saesneg) Cymdeithas Gleidio Prydeinig - Licence Peilot Gleidr
- ↑ (Saesneg) Cymdeithas Gleidio Prydeinig - Bathodyn Aerobateg
- ↑ (Saesneg) Fédération Aéronautique Internationale
- ↑ (Saesneg) Cadetiaid Awyr - Cwrs Sefydlu Gleidio
- ↑ (Saesneg) Cadetiaid Awyr - Ysgoloriaeth Gleidio
Dolenni allanol
- (Saesneg) Clwb Gleidio Cwm Nedd
- (Saesneg) Clwb Gleidio De Cymru
- (Saesneg) Clwb Gleido Dinbych
- (Saesneg) Clwb Gleido Gogledd Cymru
- (Saesneg) Clwb Gleidio'r Mynydd Du
- (Saesneg) 634 VGS Sain Tathan
- (Saesneg) 636 VGS Abertawe