Herbert Price: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
newidiadau man using AWB |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[Categori:Pobl o Frycheiniog]] |
[[Categori:Pobl o Frycheiniog]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1663]] |
[[Categori:Marwolaethau 1663]] |
||
[[en:Herbert Price]] |
Fersiwn yn ôl 06:25, 15 Ebrill 2013
Uchelwr a noddwr llenyddiaeth o'r hen Sir Frycheiniog oedd Syr Herbert Price (fl. 1615- 1663). Roedd yn orwyr i'r ysgolhaig Syr John Price (1502 - 1555), awdur y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf, Yn y lhyvyr hwnn. Fel ei hendaid, roedd yn frodor o Aberhonddu lle cafodd ei fagu ym Mhriordy Aberhonddu, a ddaeth i feddiant y teulu yn amser Syr John.
Roedd yn frenhiniaethwr eithafol a gefnogai hawl ddwyfol y brenin Siarl I o Loegr ac ymladdodd o'i blaid yn Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Bu'n Aelod Senedddol dros Sir Frycheiniog am ddau dymor. Etifeddodd ystad yn Swydd Warwick drwy briodas a bu farw yno yn 1663.
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel noddwr i dau o lenorion mawr y cyfnod, sef Henry Vaughan a Rowland Watkyns. Galwai Watkyns ef yn "llyfrgell ar-gerdded".