Cwm Rhondda (emyn-dôn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎ffynhonnellau: man gywiriadau, replaced: Ffynonell → ffynhonnell using AWB
→‎Cyfeiriadau: Ffynonellau, replaced: == ffynhonnellau == → ==Cyfeiriadau== using AWB
Llinell 7: Llinell 7:
{{wicitestun|Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd}}
{{wicitestun|Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd}}


== ffynhonnellau ==
==Cyfeiriadau==
<references/>
<references/>
* ''Rhagor o Donau a'u Hawduron Huw Williams Llyfrau'r MC 1969
* ''Rhagor o Donau a'u Hawduron Huw Williams Llyfrau'r MC 1969

Fersiwn yn ôl 13:29, 5 Ebrill 2013

Emyn-dôn Gymreig boblogaidd iawn yw Cwm Rhondda, sy'n cael ei ystyried fel anthem answyddogol Cymru a chanir ar nifer o achlysuron ar wahân i'r eglwys, gan gynnwys mabolgampau (yn enwedig ar y maes rygbi).[1] Daw enw'r gân o le caiff ei chyfansoddi, sef Cwm Rhondda, yn dilyn arferiad i alluogi organyddion i adnabod tôn yn syth.[2] Ysgrifennodd William Williams y testun (Arglwydd, arwain trwy'r anialwch)[1] a chaiff ei ganu i alaw a gyfansoddodd John Hughes. Cred rhai i'r alaw gael ei hysgrifennu ar gyfer Cymanfa Ganu'r Bedyddwyr ym Mhontypridd yn 1905 ond dywed eraill ei bod wedi ei hysgrifennu i gyrddau arbennig yng Nghapel Rhondda, eglwys y Bedyddwyr, Trehopcyn, Pontypridd, yn 1907. Mae'n sôn am hanes yr Iddewon yn teithio o'r Aifft i Ganaan (stori Llyfr Exodus yn y Beibl).[2] Weithiau canir geiriau Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd gan Ann Griffiths. Mae fersiynau Saesneg o'r gân hefyd: Bread of Heaven (cyfieithiad o eiriau Williams, gan Peter Williams), Christ is Coming, a God of Grace and God of Glory.

Cafodd fersiwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o'r emyn-dôn ei ddewis gan yr actores Seisnig Kristin Scott Thomas fel un o'i Desert Island Discs hi, ar gyfer y rhaglen ar BBC Radio 4.[3]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 100 Arwyr Cymru — William Williams (Pant-y-celyn)
  2. 2.0 2.1 S4C — Codi Canu: Cwm Rhondda
  3. (Saesneg) BBC Radio 4 - Factual - Desert Island Discs - Kristin Scott Thomas. Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  • Rhagor o Donau a'u Hawduron Huw Williams Llyfrau'r MC 1969

Cysylltiadau allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato