Gwlff Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 93 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q34675 (translate me) |
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q34675 (translate me) |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
{{Link FA|hr}} |
{{Link FA|hr}} |
||
[[hi:फ़ारसी खाड़ी]] |
Fersiwn yn ôl 12:16, 11 Mawrth 2013
Mae Gwlff Persia (Arabeg: الخليج الفارسى; Perseg: خلیج فارس) neu yn aml Y Gwlff[1] yn estyniad neu gwlff o Gefnfor India sy'n gwahanu Iran oddi y gwledydd Arabaidd megis Saudi Arabia. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw Irac, Kuwait, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar ac Oman, tra mae Bahrain yn ynys yn y Gwlff. Oherwydd fod rhan helaeth o olew y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000 km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae Culfor Hormuz yn ei gysylltu a Gwlff Oman. Ar yr ochr orllewinol, mae'r Shatt al-Arab, lle mae Afon Ewffrates ac Afon Tigris yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.
Er bod yr enw "Gwlff Persia" yn cael ei gofnodi cyn belled yn ôl a'r awduron clasurol, nid yw llawer o'r gwledydd Arabaidd o gwmpas y Gwlff yn ei dderbyn, gan ei fod yn awgrymu fod gan Iran hawl arno. Mae nifer o'r gwledydd hyn yn defnyddio Gwlff Arabia (Arabeg: الخلیج العربي al-khalīj al-ʿarabī) amdano.
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.