Neidio i'r cynnwys

Culfor Hormuz

Oddi ar Wicipedia
Culfor Hormuz
Llun o loeren, gydag Iran ar y top, Oman a'r Emiradau Arabaidd Unedig yn y gwaelod
Mathculfor Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGwlff Oman, Gwlff Persia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwlff Persia Edit this on Wikidata
GwladIran, Oman, Yr Emiradau Arabaidd Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.6°N 56.5°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Culfor Hormuz[1] (Arabeg: مضيق هرمز - Madīq Hurmuz; Persieg: تنگهٔ هُرمُز - Tangeh-ye Hormoz) yn gulfor sy'n gwahanu Gwlff Persia yn y gorllewin oddi wrth Gwlff Oman yn y dwyrain. Ar ochr ogleddol y culfor mae Iran, ac ar yr ochr ddeheuol Yr Emiradau Arabaidd Unedig a Musandam, sy'n rhan o Oman.

Mae'r culfor tua 104 milltir (90 mi; 167 km) o hyd, gyda lled yn amrywio o tua 60 mi (52 mi; 97 km) i 24 mi (21 mi; 39 km).[2][3] Dyma'r unig ffordd allan o Gwlff Persia i'r llongau tancer sy'n cario olew o'r gwledydd o amgylch y Gwlff, ac amcangyfrifwyd bod tua 25 y cant o olew y byd a 20 y cant o nwy hylifol, yn y cyfnod 2023–2025, yn mynd trwy'r culfor yma. Oherwydd hyn, mae o bwysigrwydd strategol enfawr.[4]

Ar 28 Chwefror 2026, ar ôl yr ymosodiadau gan Israel-UDA ar Iran, cafodd Culfor Hormuz ei gau gan Gorfflu Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd Iran.[5] Caniatawyd i Tsieina barhau i hwylio. Ar 3 Mawrth datganodd yr Arlywydd Donald Trump y gallai Llynges yr Unol Daleithiau hebrwng tanceri olew trwy Culfor Hormuz, ond ni ddigwyddodd hynny.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.
  2. Jon M. Van Dyke (2 Hydref 2008). "Transit Passage Through International Straits" (PDF). The Future of Ocean Regime-Building. University of Hawaii. t. 216. doi:10.1163/ej.9789004172678.i-786.50. ISBN 9789004172678. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 7 Awst 2020. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2019.
  3. "The Strait of Hormuz is the world's most important oil transit chokepoint". U.S. Energy Information Administration. 4 Ionawr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Medi 2018. Cyrchwyd 11 Medi 2018.
  4. "Oil Prices Jump, But Middle East Oil Keeps Flowing Uninterrupted". OilPrice.com. 17 Mehefin 2025. the narrow lane has never been blocked in any previous conflict in the Middle East.
  5. "Iran's revolutionary guards tell ships passage through Strait of Hormuz 'not allowed', EU naval mission official says". Reuters. 28 Chwefror 2026. Cyrchwyd 28 Chwefror 2026.