Cantref Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2936885 (translate me) |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
[[Categori:Cantrefi Cymru]] |
[[Categori:Cantrefi Cymru]] |
||
[[Categori:Teyrnas Deheubarth]] |
[[Categori:Teyrnas Deheubarth]] |
||
[[en:Cantref Mawr]] |
|||
[[fr:Cantref Mawr]] |
Fersiwn yn ôl 10:57, 9 Mawrth 2013
- Am y Cantref Mawr ym Mrycheiniog, gweler Tewdos.
Roedd y Cantref Mawr yn gantref yn ne-orllewin Cymru. Yr oedd o bwysigrwydd strategol mawr yn y Canol Oesoedd oherwydd mai yma yr oedd prif ganolfan tywysogion Deheubarth, sef Dinefwr. Ei ganolfan grefyddol oedd Abaty Talyllychau.
Roedd pob cantref wedi ei rannu i unedau llai, y cwmwd. Fel rheol byddai dau neu dri cwmwd mewn cantref, ond roedd y Cantref Mawr yn cynnwys saith cwmwd ac yn un o'r cantrefi mwyaf yng Nghymru. Roedd yn ardal fynyddig rhwng Afon Tywi, Afon Teifi ac Afon Gwili. Yn y cyfnod hwn roedd coedydd yn gwneud ymosod ar y cantref yma yn anodd, ac felly byddai'n noddfa i dywysogion Deheubarth pan ymosodid arnynt.
Gyda'r Cantref Bychan ffurfiai'r Cantref Mawr arglwyddiaeth Ystrad Tywi. Collwyd meddiant ar y Cantref Mawr gan dywysogion Deheubarth yn 1277 a daeth yn rhan o'r Sir Gaerfyrddin newydd.
Cymydau'r Cantref Mawr
Llyfryddiaeth
- Lloyd, J.E. (1911) The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longman, Green & Co.)