Alex Ferguson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 67 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q44980 (translate me)
Llinell 124: Llinell 124:
[[Categori:Rheolwyr pêl-droed]]
[[Categori:Rheolwyr pêl-droed]]
[[Categori:Pobl o Glasgow]]
[[Categori:Pobl o Glasgow]]

[[ar:أليكس فيرغسون]]
[[arz:اليكس فيرجسون]]
[[az:Aleks Ferqyuson]]
[[be:Алекс Фергюсан]]
[[bg:Алекс Фъргюсън]]
[[bn:অ্যালেক্স ফার্গুসন]]
[[bs:Alex Ferguson]]
[[ca:Alexander Chapman Ferguson]]
[[ckb:ئەلێکس فێرگوسۆن]]
[[cs:Alex Ferguson]]
[[da:Alex Ferguson]]
[[de:Alex Ferguson]]
[[el:Άλεξ Φέργκιουσον]]
[[en:Alex Ferguson]]
[[es:Alex Ferguson]]
[[et:Alex Ferguson]]
[[eu:Alex Ferguson]]
[[fa:الکس فرگوسن]]
[[fi:Alex Ferguson]]
[[fr:Alex Ferguson]]
[[ga:Alex Ferguson]]
[[gd:Alex MacFhearghais]]
[[gl:Alex Ferguson]]
[[gu:એલેક્સ ફર્ગ્યુસન]]
[[he:אלכס פרגוסון]]
[[hi:एलेक्स फर्ग्यूसन]]
[[hr:Alex Ferguson]]
[[hu:Alex Ferguson]]
[[id:Alex Ferguson]]
[[is:Alex Ferguson]]
[[it:Alex Ferguson]]
[[ja:アレックス・ファーガソン]]
[[jv:Sir Alex Ferguson]]
[[ka:ალექს ფერგიუსონი]]
[[kk:Алекс Фергюсон]]
[[kn:ಅಲೆಕ್ಸ್ ಫರ್ಗುಸನ್]]
[[ko:알렉스 퍼거슨]]
[[lv:Alekss Fergusons]]
[[mk:Алекс Фергусон]]
[[ml:അലക്സ് ഫെർഗൂസൺ]]
[[mr:अॅलेक्स फर्ग्युसन]]
[[ms:Alex Ferguson]]
[[mt:Alex Ferguson]]
[[my:အဲလက်စ်ဖာဂူဆန်]]
[[nl:Alex Ferguson]]
[[nn:Alex Ferguson]]
[[no:Alex Ferguson]]
[[pl:Alex Ferguson]]
[[pt:Alex Ferguson]]
[[ro:Alex Ferguson]]
[[ru:Фергюсон, Алекс]]
[[simple:Alex Ferguson]]
[[sk:Alex Ferguson]]
[[sq:Alex Ferguson]]
[[sr:Алекс Фергусон]]
[[su:Alex Ferguson]]
[[sv:Alex Ferguson]]
[[sw:Alex Ferguson]]
[[ta:அலெக்ஸ் ஃபெர்குஸன்]]
[[te:అలెక్స్ ఫెర్గూసన్]]
[[th:อเล็กซ์ เฟอร์กูสัน]]
[[tr:Alex Ferguson]]
[[tt:Алекс Фергюсон]]
[[uk:Алекс Фергюсон]]
[[vi:Alex Ferguson]]
[[wo:Alex Ferguson]]
[[zh:亚历克斯·弗格森]]

Fersiwn yn ôl 07:59, 9 Mawrth 2013

Alex Ferguson
Ferguson ym mis Rhagfyr 2006
Manylion Personol
Enw llawn Alexander Chapman Ferguson
Dyddiad geni (1941-12-31) 31 Rhagfyr 1941 (82 oed)
Man geni Govan, Glasgow, Baner Yr Alban Yr Alban
Manylion Clwb
Clwb Presennol Manchester United (Rheolwr)
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1957-1960
1960-1964
1964-1967
1967-1969
1969-1973
1973-1974
Queen's Park
St. Johnstone
Dunfermline Athletic
Rangers
Falkirk
Ayr United
Cyfanswm
31 (15)
37 (19)
88 (66)
41 (25)
95 (36)
24 (9)
317 (170)
Clybiau a reolwyd
1974
1974-1978
1978-1986
1985-1986
1986-
East Stirlingshire
St. Mirren
Aberdeen
Yr Alban
Manchester United

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Rheolwr pêl-droed Albanaidd a chyn chwaraewr yw Syr Alexander Chapman Ferguson (ganwyd 31 Rhagfyr, 1941). Ef yw rheolwr cyffredinol Manchester United ers 1986. Ei enwau mwy cyffredinol yw Sir Alex neu Fergie. Mae Ferguson wedi ennill mwy o dlysau nag unrhyw rheolwr pel droed yn hanes y gem Seisnig.

Bywyd personol

Cafodd ei eni ar 31 Rhagfyr, 1941 yng nghartref ei Nain yn Govan, Glasgow i Alexander Beaton Ferguson a'i wraig Elizabeth Hardie. Cafodd ei frawd, Martin, ei eni yn Rhagfyr 1942. Bu'n fyfyriwr yn ysgol gynradd Broomloan Road ac ysgol uwchradd Govan. Priododd ei wraig, Cathy, yn 1966 ac mae ganddynt dri mab, Mark (ganwyd 1968) a gefelliaid Darren Ferguson a Jason (ganwyd 1972). Dilynodd Darren ei dad gan fod yn chwaraewr pêl-droed a nawr yn reolwr gyda Peterborough United. Heddiw mae Ferguson a'i wraig yn byw yn Wilmslow, Sir Gaer.

Gyrfa fel pêl-droediwr

Dechreuodd ei yrfa fel ymosodwr gyda Queens Park yn 16 mlwydd oed gan sgorio yn ei gêm gyntaf yn erbyn Stranraer. Wedi iddo sgorio 20 gôl mewn 31 gêm, symudodd i St Johnstone yn 1960. Yn anffodus, rhag iddo sgorio nifer o weithiau, bu'n anodd i Ferguson dal safle yn y tim. Felly, ymunodd a Dunfermline Athletic yn 1964, gan sgorio 45 gol mewn 51 gem yn ystod tymor 1965-66. Wedi'r cam hyn, dyma Glasgow Rangers yn arwyddo Ferguson am £65,000, pris uchaf ar y pryd am chwaraewr rhwng dwy dim o'r Alban. Er hyn, nid oedd ei flynyddoedd gyda Rangers yn llwyddiannus, gan ddod i ben gyda Ferguson yn ymuno a Falkirk. Yn 1972 symudodd i Ayr United, ei dim olaf, gan chwarae ei gêm olaf dros Ayr United yn erbyn Stranraer.

Blynyddoedd cynnar fel rheolwr

East Stirlingshire

Ym Mehefin 1974, daeth yn reolwr East Stirlingshire yn 32 mlwydd oed. Ennillodd gyflog o £40 yr wythnos, ac bu mor llwyddiannus yn ei amser byr gyda'r clwb fel y cynnigodd swydd rheolwr St Mirren iddo yn Hydref 1974.

St Mirren

Bu'n rheolwr St Mirren rhwng 1974 a 1978, gan ennill lle yn yr adran gyntaf yn 1977 gyda thîm ag oedran cyfartalog mor isel ag 19. Darganfyddwyd nifer o chwaraewyr enwog yn cynnwys Billy Stark, Tony Fitzpatrick, Frank McGarvey a Peter Weir. Cafodd Ferguson ei ddiswyddo ar ôl "torri rheolau ei cytundeb". St Mirren yw'r unig glwb sydd wedi diswyddo Alex Ferguson yn ei amser fel rheolwr.

Aberdeen

Cymerodd reolaeth ym Mehefin 1978, ac yn ei flynyddoedd cynnar, collodd Aberdeen yn rownd derfynol Cwpan Cynghrair yr Alban ddwywaith. Ond ennillodd Aberdeen Gynghrair yr Alban yn ystod tymor 1979-80, y tro cyntaf ers 1955. Wedi'r llwyddiant, aeth Aberdeen ymlaen i ennill Cwpan yr Alban yn 1982.

Ewrop

Yn sgil ennill Cwpan yr Alban, bu Aberdeen yn chwarae yng Nghwpan Enillwyr Cwpan Ewropeaidd yn ystod tymor 1982-1983. Ar y ffordd i'r rownd derfynol curodd Aberdeen Bayern Munich, ac yn y rownd derfynol curwyd Real Madrid 2-1. Dyma oedd y tro olaf i dîm o'r Alban ennill unrhyw gwpan Ewropeaidd. Enillodd Aberdeen Gwpan yr Alban eto yn 1983. Yn ystod tymor 1983-84 ennillodd Aberdeen y Gynghrair a Chwpan yr Alban, ac fe dderbyniodd Ferguson OBE oddi wrth y Frenhines yn 1984. Yn ystod y tymor hwn, derbyniodd Ferguson gynigion i reoli Rangers, Arsenal a Tottenham Hotspur.

Dewisodd aros gydag Aberdeen, gan ennill y Gynghrair eto yn ystod tymor 1984-85, ac yna Cwpan yr Alban a Chwpan Cynghrair yr Alban yn ystod tymor 1985-86.

Yr Alban

Yn ystod rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 1986 roedd Ferguson yn rhan o dim rheolaeth Jock Stein. Wedi marwolaeth Stein o drawiad y galon ar Medi 10fed 1985 yn ystod gêm yng Nghaerdydd yn erbyn Cymru, bu cymerodd Ferguson reolaeth dros y tîm cenedlaethol. Ennillwyd lle yn y rowndiau terfnyol, ond aeth Yr Alban allan yn y rownd gyntaf.

Manchester United

Wedi i Ron Atkinson gael ei ddiswyddo, daeth Ferguson yn reolwr Manchester United ar Dachwedd 6ed 1986.

Blynyddoedd cynnar

Bu blynyddoedd cynnar Ferguson gyda Manchester United yn anodd, gan i'r tim orffen yn safle 11 yn y gynghrair yn ystod tymor 1986-87. Wedi iddo arwyddo Steve Bruce, Viv Anderson, Brian McClair a Jim Leighton yn ystod tymor 1987-88 gorffenwyd yn yr ail safle yn y cynghrair. Arwyddwyd Mark Hughes ar gyfer tymor 1988-89, ond gorffenwyd eto yn safle 11. Bu dechrau'r tymor nesaf yn un siomedig i'r tîm, ac erbyn y gaeaf roedd llawer o'r cefnogwyr yn gofyn am ddiswyddiad Ferguson wedi iddynt colli saith gêm yn olynol. Ond, curwyd Nottingham Forest yn nhrydydd rownd Cwpan yr FA, ac mae llawer yn credu dyma'r gêm a achubodd gyrfa Ferguson. Aeth Manchester United ymlaen i ennill y cwpan yn erbyn Crystal Palace yn ystod y tymor hwn.

Llwyddiannau cynnar

Fel yn ystod ei amser gydag Aberdeen, llwyddodd Ferguson i ennill Cwpan Enillwyr Cwpan Ewropeaidd gan cgro Barcelona 2-1 yn 1991. Yn y tymor canlynol ennillodd Cwpan y Gynghrair a'r "Super Cup". Wedi tymor arall heb ennill y gynghrair, arwyddodd Ferguson Eric Cantona oddi wrth Leeds United, gan dalu £1.2 miliwn. Dyma oedd trobwynt yng ngyrfa Ferguson gyda Manchester United, ac ennillwyd y gynghrair am y tro cyntaf yn ystod tymor 1992-93. Aeth ymlaen i ennill dwbl o'r cynghrair a Cwpan yr FA yn ystod 1993-94 a 1995-96. Yn ystod y tymor 1995-96 bu Ferguson yn chwarae Gary a Phil Neville, David Beckham, Paul Scholes a Nicky Butt, ac fe ennillon nhw yr enw "Fergie's Fledgings". Bu'r tîm ifanc yn cael ei gymharu i'r Busby Babes, tîm hanesyddol Manchester United. Yn 1995 derbyniodd Ferguson yn ennill CBE wrth Frenhines Elisabeth II am ei gyfraniad i bêl-droed.

Ennillwyd cynghrair 1996-97, a chyrhaeddwyd rownd cyn-derfynol Cwpan Ewrop, gan golli i Borussia Dortmund. Methodd Manchester United i ennill unrhywbeth yn ystod y tymor canlynol, ond wedi arwyddo Dwight Yorke a Jaap Stam, bu tymor 1998-99 yn un hanesyddol.

Y Trebl

Yn ystod tymor 1998-99 ennillodd Manchester United Gynghrair Lloegr, Cwpan yr FA, a Chwpan Ewrop. Dyma oedd y tro cyntaf i dîm o Loegr ennill y tri cwpan mewn un tymor, y tro cyntaf ers 1968 i Manchester United ennill Cwpan Ewrop, a'r tro cyntaf ers Lerpwl yn 1984 i dîm o Loegr ennill Cwpan Ewrop. Bu llawer o gemau cofiadwy yn ystod y tymor, megis curo Arsenal 2-1 yn rownd cyn-derfynol Cwpan yr FA gyda gôl anghofiadwy Ryan Giggs, a churo Bayern Munich yn rownd derfynol Cwpan Ewrop 2-1 gyda Manchester United yn sgorio ei dwy gôl yn ystod tair munud amser ychwanegol. Yn sgil y Trebl, gwobrwywyd Ferguson gydag Urdd Marchogaeth yn 1999.

Yn sgil ennill y Trebl aeth Manchester United ymlaen i ddal gafael ar Gynghrair Lloegr am y dwy flynedd canlynol. Ymunodd Manchester United â nifer bychan o dimoedd sydd wedi ennill tair cynghrair yn olynol. Erbyn 2001 roedd Manchester United wedi ennill saith cynghrair mewn naw blynedd.

2001-2006

Ennillodd Manchester United y Gynghrair yn ystod tymor 2002-2003 oddi wrth Arsenal. Ac yn tymor 2003-2004 enillwyd Cwpan yr FA. Ond roedd y blynyddoedd hyn yn amser caled i Ferguson a Manchester United. Wedi iddo ddewis peidio ymddeol yn ystod tymor 2001-2002, dechreuodd llawer gwestiynu gallu Ferguson i barhau. Doedd materion ynglyn â'r ceffyl rasio Rock of Gibraltar rhwng Ferguson a J.P. McManus a John Magnier ddim yn helpu, nac ychwaith fod Malcolm Glazer yn prynu'r clwb. Enillwyd Cwpan Cynghrair Lloegr yn ystod tymor 2005-2006, ond gadawodd Roy Keane a Ruud Van Nistelrooy y clwb.

Dadeni Ferguson

Roedd Ferguson yn wynebu amser caled ar ddechrau tymor 2006-07. Roedd Jose Mourinho wedi ennill y gynghrair dwy flynedd yn olynol gyda Chelsea. Ond, gyda Michael Carrick yn ymuno â'r tim, dechreuwyd cyfnod llwyddiannus eto i Ferguson a Manchester United. Enillwyd y Gynghrair am y tro cyntaf ers 2003, a chyrhaeddwyd rownd cyn-derfynol Cwpan Ewrop a rownd derfynol Cwpan yr FA. Yn ystod y tymor dathlwyd 20fed tymor Ferguson fel rheolwr Manchester United, a sgoriodd Cristiano Ronaldo gôl rhif 2000 Manchester United yn ystod rheolaeth Ferguson.

Yn y tymor canlynol arwyddwyd Carlos Tevez, Owen Hargreaves, Anderson a Nani, ac fe enillodd United y Gynghrair a Chwpan Ewrop. Dyma oedd ail Cwpan Ewrop Ferguson a trydydd Manchester United. Curwyd Chelsea yn y rownd derfynol, gyda chic gosb Ryan Giggs yn ennill y gêm ar y diwrnod a gurodd record nifer o gêmau dros Manchester United, record a ddaliwyd gan Bobby Charlton.

Enillwyd y gynghrair am y trydydd tymor yn olynol yn ystod 2008-09, y tro cyntaf i tîm ennill tair cynghrair yn olynol ddwywaith. Collwyd rownd derfynol Cwpan Ewrop 2-0 i Barcelona, ond dyma oedd y tro cyntaf i Manchester United gyrraedd rownd derfynol Cwpan Ewrop dwy tymor yn olynol. Er colli Cwpan Ewrop, roedd Ferguson wedi ennill y Gynghrair am yr 11fed tro, gyda Ryan Giggs yr unig chwaraewr i ennill pob un o'r cynghreiriau yma gyda Ferguson. Yn ogystal â'r gynghrair, enillwyd Cwpan y Cynghrair am y trydydd tro, ac fe enillwyd FIFA Cwpan Clwb y Byd.

Ond, ar gychwyn Haf 2009 collodd Ferguson Cristiano Ronaldo i Real Madrid am £80 miliwn, a rhyddhawyd Carlos Tevez. Er hyn, parhaodd Ferguson yn ei swydd, ac mae ef yn barod i barhau os nad oes ganddo unrhyw problemau iechydol.

Anrhydeddau

Chwaraewr

St. Johnstone (1960–1964)

  • Cynghrair Cyntaf yr Alban:1962-63

Falkirk (1969–1973)

  • Cynghrair Cyntaf yr Alban: 1969-70

Rheolwr

St. Mirren (1974–1978)

  • Cynghrair Cyntaf yr Alban: 1976-77

Aberdeen (1978–1986)

Manchester United (1986–heddiw)

  • Uwchgynghrair Lloegr: 1992-93, 1993-94, 1995-96, 1996-97, 1998-99, 1999-00, 2000-01, 2002-03, 2006-07, 2007-08, 2008-09
  • Cwpan FA: 1989-90, 1993-94, 1995-96, 1998-99, 2003-2004
  • Cwpan Cynghrair Lloegr: 1991-92, 2005-06, 2008-09, 2009-10
  • Cwpan Elusen yr FA: 1990 (wedi rhannu), 1993, 1994, 1996, 1997, 2003, 2007, 2008
  • UEFA Cwpan Ewrop: 1998-99, 2007-08
  • UEFA Cwpan Ennillwyr Cwpan Ewropeaidd: 1990-91
  • UEFA Super Cup: 1991
  • Cwpan Rhyng-cyfandirol: 1999
  • FIFA Cwpan Clwb y Byd: 2008

Personol

  • Rheolwr Prif Cynghrair y Flwyddyn: 1993-94, 1995-96, 1996-97, 1998-99, 1999-00, 2002-03, 2006-07, 2007-08, 2008-09
  • Rheolwr Prif Cynghrair y Mis: Awst 1993, Hydref 1994, Chwefror 1996, Mawrth 1996, Chwefror 1997, Hydref 1997, Ionawr 1999, Ebrill 1999, Awst 1999, Mawrth 2000, Chwefror 2001, Ebrill 2003, Chwefror 2005, Mawrth 2006, Awst 2006, Hydref 2006, Chwefror 2007, Ionawr 2008, Mawrth 2008, Ionawr 2009, Ebrill 2009, Medi 2009.
  • LMA Rheolwr y Flwyddyn: 1998-99, 2007-08
Manchester United F.C. - Sgwad Presennol

1 De Gea3 Evra4 Jones5 Ferdinand6 Evans7 Owen8 Anderson9 Berbatov10 Rooney11 Giggs12 Smalling13 Park14 Hernández15 Vidić16 Carrick17 Nani18 Young19 Welbeck20 Fábio21 Rafael23 Cleverley24 Fletcher25 Valencia27 Macheda28 Gibson29 Kuszczak32 Diouf34 Lindegaard40 Amos42 Pogba • 49 MorrisonRheolwr: Ferguson