Romain Feillu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) teipio |
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: mk:Ромен Феји |
||
Llinell 74: | Llinell 74: | ||
[[ja:ロマン・フェイユ]] |
[[ja:ロマン・フェイユ]] |
||
[[la:Romanus Feillu]] |
[[la:Romanus Feillu]] |
||
[[mk:Ромен Феји]] |
|||
[[nl:Romain Feillu]] |
[[nl:Romain Feillu]] |
||
[[no:Romain Feillu]] |
[[no:Romain Feillu]] |
Fersiwn yn ôl 23:07, 4 Mawrth 2013
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Romain Feillu |
Dyddiad geni | 16 Ebrill 1984 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Sbrintiwr |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2005– |
Agritubel |
Golygwyd ddiwethaf ar 11 Gorffennaf 2009 |
Seiclwr proffesiynol Ffrengig ydy Roman Feillu (ganed 16 Ebrill 1984). Ganwyd yn Châteaudun, ac mae'n frawd hŷn i Brice Feillu sydd hefyd yn seiclwr proffesiynol. Mae'n reidio dros dîm Agritubel ers 2005.[1]
Dechreuodd ei yrfa proffesiynol fel reidiwr hyfforddedig (stagiaire) gydag Agritubel yn 2005. Fe roddodd argraff dda ar reolwyr y tîm, gan ennill cyntundeb gyda'r tîm yn y flwyddyn ganlynol. Enillodd y Grand Prix Tours a'r Tour de la Somme yn 2006. Yn 2007, enillodd gymal o'r Tour de Luxembourg a'r Circuit de l'Aulne. Cystadlodd hefyd yn y Tour de France am y tro cyntaf, gan orffen yn y deg uchaf mewn sbritiau grŵp dair gwaith. Tynnodd allan o'r ras wedi cymal 8, sef yr ail gymal mynyddig. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd y Tour of Britain a'r Paris-Bourges.
Yn 2008, enillodd y Circuit de l'Aulne. Gwisgodd Feillu y Crys Melyn am y tro cyntaf ar ôl cymal 4 Tour de France 2008, gan ennill y Crys Gwyn yr un adeg.
Canlyniadau
- 2006
- 1af Grand Prix Tours
- 1af Tour de la Somme
- 2007
- 1af Circuit de l'Aulne
- 1af Cymal 3, Tour de Luxembourg
- 1af Tour of Britain
- 1af Paris-Bourges
- 10fed Paris-Tours (UCI ProTour)
- 2008
- 1af Circuit de l'Aulne
- 1af Dosbarthiad cyffredinol ar ôl Cymal 4, Tour de France
- 1af Dosbarthiad reidiwr ifanc ar ôl Cymal 4, Tour de France
- 2009
- Tour de Picardie
- 1af Cymal 2
- 1af Dosbarthiad pwyntiau
- 1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
- 3ydd Route Adélie
- 3ydd Cymal 2, Tour de France