Natsïaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B tynnu nodyn eginyn
B r2.7.3) (robot yn tynnu: th:นาซี
Llinell 105: Llinell 105:
[[te:నాజీయిజం]]
[[te:నాజీయిజం]]
[[tg:Нозисм]]
[[tg:Нозисм]]
[[th:นาซี]]
[[tr:Nasyonal sosyalizm]]
[[tr:Nasyonal sosyalizm]]
[[uk:Націонал-соціалізм]]
[[uk:Націонал-соціалізм]]

Fersiwn yn ôl 23:52, 31 Ionawr 2013

Baner yr Almaen Natsïaidd
Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth


Y wedd fwyaf eithafol ar Ffasgaeth, "Sosialaeth Genedlaethol" oedd yr enw swyddogol ar Natsïaeth, oedd wedi'i seilio ar oruchafiaeth honedig yr hil Ariaidd, ac yn benodol y pobloedd Almaenig, dros bob hil arall, yn enwedig Slafiaid ac Iddewon. Ystyrid yr Almaenwyr yn Herrenvolk: "meistr-hil".

O fod yn griw bach di-nod, fe dyfodd y Blaid Natsïaidd yn y blynyddoedd anodd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn brif blaid yr Almaen.[1][2][3] Manteisiodd y blaid ar drybini economaidd y wlad, gan wneud bwch dihangol o'r Iddewon.

Yn 1920 fe gyhoeddodd y Blaid Natsïaidd rhaglen 25-Pwynt (Rhaglen Sosialaeth Cenedlaethol) a oedd yn cynnwys syniadau: gwrth-lywodraeth, syniadau Almaen gyfan, hiliaeth, gwrth-semitiaeth, Darwiniaeth Cymdeithasol, eugenics, gwrth-gomiwnyddiaeth, totalitariaeth a'u gwrthwynebiad i economeg a rhyddfrydiaeth gwleidyddol.[4][5][6][7]

Roedd militariaeth hefyd yn elfen gref mewn Natsïaeth, ac roedd pwyslais mawr ar ehangu'r diriogaeth Almaenig trwy rym arfog er mwyn creu Lebensraum: "lle i fyw" i Almaenwyr. Dadleuodd Hitler os nad oedd pobl yn medru amddiffyn ffiniau eu gwlad, nad oeddynt felly'n haeddu eu gwlad. Yn ei farn o roedd rhai gwledydd Slafaidd yn "gaethweision-hil" (slave-races) a fod gan yr Herrenvolk, felly, yr hawl i'w tiroedd.[8]

Pen draw Natsïaeth oedd Die Endlösung, neu'r Ateb Terfynnol, sef ymgais i ddileu'r Iddewon ac eraill oddi ar gyfandir Ewrop. Dadleuodd Hitler nad oedd gan bobl di-wlad yr hawl i fyw ac y gall y meistr-hil gryfhau ei gilydd drwy ddifa'r 'paraseits' hyn, pobl megis: y Romani (neu Sipsiwn), Tsieciaid, Pwyliaid, pobl gydag afiechyd meddwl, yr anabl, hoywon ac eraill.


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. National Socialism Encyclopædia Britannica.
  2. National Socialism Microsoft Encarta Online Encyclopedia 2007. Archived 2009-11-01.
  3. Walter John Raymond. Dictionary of Politics. (1992). ISBN 155618008X p. 327.
  4. Davies, Peter; Dereck Lynch (2003). Routledge Companion to Fascism and the Far Right. Routledge, tudalen 103. ISBN 0415214955.
  5. "Hayek">Hayek, Friedrich (1944). The Road to Serfdom. Routledge. ISBN 0415253896.
  6. Hoover, Calvin B. (March 1935). “The Paths of Economic Change: Contrasting Tendencies in the Modern World”, The American Economic Review, Cyfrol 25, Rhif 1, Atodiad, Papers and Proceedings of the Forty-seventh Annual Meeting of the American Economic Association, pp. 13–20.
  7. Morgan, Philip (2003). Fascism in Europe, 1919–1945. Routledge, tudalen 168. ISBN 0415169429.
  8. “BBC - History - Hitler and 'Lebensraum' in the East” (hanes), www.bbc.co.uk, 2004, gwefan: Lebensraum.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol