Bioleg a chyfeiriadedd rhywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.3) (robot yn newid: zh:性傾向和生物學 |
Chobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.6) (robot yn ychwanegu: ko:생물학과 성적 지향 |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
[[en:Biology and sexual orientation]] |
[[en:Biology and sexual orientation]] |
||
[[es:Biología y orientación sexual]] |
[[es:Biología y orientación sexual]] |
||
[[ko:생물학과 성적 지향]] |
|||
[[pt:Biologia e orientação sexual]] |
[[pt:Biologia e orientação sexual]] |
||
[[ru:Биология и сексуальная ориентация]] |
[[ru:Биология и сексуальная ориентация]] |
Fersiwn yn ôl 03:35, 24 Ionawr 2013
Heddiw, cytuna'r mwyafrif o wyddonwyr ei fod yn fwyaf tebygol taw canlyniad i ryngweithiad cymhleth o ffactorau amgylcheddol, gwybyddol a biolegol yw cyfeiriadedd rhywiol.[1] Er nad yw cyfunrywioldeb yn ymddangos yn ymaddasol o safbwynt esblygiadol, gan nad yw rhyw gyfunrywiol yn cynhyrchu epil, mae tystiolaeth i brofi ei fodolaeth ym mhob oes ac ym mhob diwylliant a gwareiddiad dynol.[2]
Er ystyriant gwyddonwyr nifer o ffactorau biolegol, megis hormanau cyn-geni, cromosomau, effeithiau polyenynnol, strwythur yr ymennydd a dylanwadau firaol, ni fodolir consensws gwyddonol ar sut mae bioleg yn dylanwadu ar gyfeiriadedd rhywiol.
Cytuna'r mwyafrif o wyddonwyr ei fod yn annhebygol bod yna "genyn hoyw" unigol sy'n pennu rhywbeth mor gymhleth â chyfeiriadedd rhywiol, ac mae'n fwy tebygol taw rhyngweithiad o ffactorau genynnol, biolegol ac amgylcheddol/diwylliannol sy'n ei achosi. Er hynny, darganfuwyd alelau mwtanaidd o enyn "diffrwyth" o fewn pryfed ffrwythau oedd yn achosi pryfed gwrywol i garu a cheisio ymgydio â gwrywod eraill yn unig.
Er rhoddir llawer o'r canolbwynt poblogaidd ar fformiwlâu syml megis "y genyn hoyw", gwerth ymchwil gwyddonol yn y maes hwn yn y bôn yw datblygu gwir ddealltwriaeth o sylfaen fiolegol cyfeiriadedd rhywiol yn gyffredinol, sydd ar hyn o bryd heb ddealltwriaeth gadarn am unrhyw gyfeiriadedd unigol. Dylai astudiaeth o sut mae mecanweithiau datblygus yn cynhyrchu amrywiad yng nghyfeiriadedd rhywiol arwain at ragor o ddealltwriaeth o sut mae nifer o nodweddion ymddygiadol tebyg yn gweithio hefyd.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Answers to Your Questions About Sexual Orientation and Homosexuality. Yr Asiantaeth Seicoleg Americanaidd. Adalwyd ar 2 Rhagfyr, 2007.
- ↑ (Saesneg) Bereano, Philip L. (26 Chwefror, 1996). Mystique of the Phantom "Gay Gene". Seattle Times. Canolfan am Eneteg a Chymdeithas. Adalwyd ar 2 Rhagfyr, 2007.