Cerddoriaeth Gwlad Pwyl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan ffm (sgwrs | cyfraniadau)
Interwiki
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:KorneliSzlegel-PolonezPodGolymNiebem-bibl.Pawlikowskich.jpg|bawd|Dawnsio'r Polonez]]
[[Delwedd:Polonez Pod Gołym Niebem - Korneli Szlegel.jpg|bawd|Dawnsio'r Polonez]]
Mae traddodiad werin gyfoethog a chyfundrefn cerddoriaeth glasurol nodedig i'w gweld yng '''ngherddoriaeth [[Gwlad Pwyl]]'''. Mae'n un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle mae [[roc]] a [[hip hop]] yn dra-arglwyddiaethu dros [[cerddoriaeth boblogaidd|gerddoriaeth boblogaidd]] ac mae [[cerddoriaeth amgen]] o bob math yn cael ei annog.
Mae traddodiad werin gyfoethog a chyfundrefn cerddoriaeth glasurol nodedig i'w gweld yng '''ngherddoriaeth [[Gwlad Pwyl]]'''. Mae'n un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle mae [[roc]] a [[hip hop]] yn dra-arglwyddiaethu dros [[cerddoriaeth boblogaidd|gerddoriaeth boblogaidd]] ac mae [[cerddoriaeth amgen]] o bob math yn cael ei annog.



Fersiwn yn ôl 17:18, 21 Ionawr 2013

Dawnsio'r Polonez

Mae traddodiad werin gyfoethog a chyfundrefn cerddoriaeth glasurol nodedig i'w gweld yng ngherddoriaeth Gwlad Pwyl. Mae'n un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle mae roc a hip hop yn dra-arglwyddiaethu dros gerddoriaeth boblogaidd ac mae cerddoriaeth amgen o bob math yn cael ei annog.

Hanes cerddoriaeth glasurol yng Ngwlad Pwyl

Gellir olrhain hanes cerddoriaeth yng Ngwlad Pwyl yn ôl i'r 13eg ganrif, megis y llawysgrifau a ganfyddwyd yn Stary Sącz sy'n cynnwys cyfansoddiadau polyffonig â naws tebyg i waith ysgol Notre Dame. Mae'n bosib fod alaw Bogurodzica hefyd yn dod o'r cyfnod hwn. Roedd y cyfansoddwr Pwyleg nodedig cyntaf, Mikołaj z Radomia, yn ei flodau yn y 15fed ganrif. Datblygodd cerddoriaeth y wlad yn gyflym yn Kraków yn y 16eg ganrif; ymysg cyfansoddwyr y cyfnod oedd Wacław z Szamotuł, Mikołaj Zieleński, a Mikołaj Gomółka. Magwyd yr Eidalwr Diomedes Cato yn Kraków, ac fe blethodd arddulliau cerddoriaeth de Ewrop gyda cherddoriaeth werin Bwyleg.

Roedd nifer o gyfansoddwyr Eidaleg yn gweithio yn llysoedd Sigismund III Vasa a Władysław IV ar ddiwedd y 16eg ganrif a dechrau'r 17eg, Luca Marenzio, Giovanni Francesco Anerio, a Marco Scacchi yn eu plith. Cyfansoddwr enwocaf y cyfnod oedd Adam Jarzębski.

Dechreuodd traddodiad operatig yn Warsaw ym 1628 (a ddatblygwyd yn ddiweddarach gan Stanisław Moniuszko). Yn ddiweddarach yn y 17eg ganrif ac yn yr 18fed, bu dirywiad yng ngherddoriaeth y wlad yn sgil dirywiad y wlad.

Chopin, un o'r cyfansoddwyr enwocaf o Wlad Pwyl

Gwaetha'r modd, yn y cyfnod hwn datblygodd y polonez. Cyfansoddwyd rhai nodedig ar gyfer piano Michał Kleofas Ogiński, Karol Kurpiński, Juliusz Zarębski, Henryk Wieniawski, Mieczysław Karłowicz, Józef Elsner, a Fryderyk Chopin wrth gwrs. Roedd Chopin ac Ignacy Dobrzyński yn ddisgyblion i Józef Elsner.

Roedd Karol Szymanowski a Józef Koffler yn ffigurau blaenllaw cyn yr ail ryfel byd. Ar ôl y rhyfel, bu i Roman Palester, Andrzej Panufnik a chyfansoddwyr eraill ffoi o'r wlad. Ym 1956, yn dilyn y chwalfa wleidyddol daeth yn sgîl marwolaeth Stalin, sefydlwyd gŵyl Hydref Warsaw, a datblygodd arddull Pwyleg o gyfansoddi cyfoes, yn seiliedig ar soniaredd a dodecaffonedd. Ymysg cyfansoddwyr nodedig roedd Tadeusz Baird, Boguslaw Schaeffer, Włodzimierz Kotoński, Witold Szalonek, Krzysztof Penderecki, Witold Lutosławski, Wojciech Kilar, Kazimierz Serocki a Henryk Mikołaj Górecki (a ddaeth yn enwog yn y 90au am ei drydedd symffoni).

Cerddoriaeth draddodiadol

Casglodd Oskar Kolberg gerddoriaeth werin y wlad yn y 19eg ganrif, rhan o adfywiad cenedlaethol y wlad. Yng nghyfnod y comiwnyddion, cyfyngwyd cerddoriaeth werin i grŵpiau a gymeradwywyd, Mazowsze a Śląsk er enghraifft.

Gwnaeth Chopin gerddoriaeth ddawns Pwyleg, y mazurka a'r polonaise yn enwedig, yn boblogaidd. Dawnsiau amser tri ydynt, tra bod ffurfiau â phum curiad yn fwy cyffredin yn y gogledd ddwyrain, a dau guriad yn y de.

Podhale

Golygfa nodweddiadol yn Podhale

Er fod y traddodiad werin wedi pylu, yn enwedig yn y dinasoedd, cadwodd Podhale afael ar ei thraddodiadau. Mae Zakopane, prif dref y rhanbarth, wedi bod yn ganolfan celfyddydol ers y 19fed ganrif, pan ddarganfu Karol Szymanowski gerddoriaeth Goral yno a ddaeth yn ardal ffasiynol ymysg ddeallusion Ewrop. Mae cerddoriaeth yr ardal yn perthyn i gerddoriaeth mynyddoedd y Carpatiau yn yr Wcráin, Slofacia, y Weriniaeth Tsiec a Romania. Mae grŵpiau lleol yn canu yn y modd lydiaidd ar y ffidil a'r soddgrwth. Mae arddull canu lidyzowanie hefyd yn defnyddio'r modd lydiaidd. Mae dawnsiau dau-guraid fel y krzesany cyflym, y zbójnicki (yr enwocaf o ddawnsiau'r ardal) a'r ozwodna (sydd â strwythur 5-bar anarferol) yn boblogaidd. Mae arwyr fel Janosik yn destun i lawer o ganeuon.

Cerddoriaeth boblogaidd

Eddie Rosner

Hyd yn oed cyn dymchwel comiwnyddiaeth, roedd arddulliau megis roc, cerddoriaeth fetel drwm, jas, cerddoriaeth electronig a New Wave yn boblogaidd. Ers 1989, mae cerddoriaeth boblogaidd y wlad wedi datblygu'n aruthrol. Mae digwyddiadau cerddorol fel Jarocin, Żary, Kostrzyn nad Odrą, Gŵyl Open'er a Gŵyl Off yn gallu atynnu 250,000 a mwy o bobl yr un, sy'n cymharu'n ffafrïol â Woodstock a Roskilde.

Mae cerddoriaeth fetel eithafol yn boblogaidd iawn o dan y ddaear. Ceir bandiau megis Behemoth, Vader, Yattering, Decapitated, Indukti, Hate, a Lux Occulta.

Datblygodd cerddorion jas y wlad arddull nodweddiadol, oedd ar ei hanterth yn y 1960au a'r 1970au. Ymysg yr artistiaid enwocaf maen Krzysztof Komeda, Adam Makowicz, Tomasz Stańko a Michał Urbaniak.

Dwy ŵyl gyfoes fawr yw gŵyl Opole a gŵyl Sopot. Gwyliau eraill pwysig yw Jazz Jamboree, Gŵyl Blues Rawa a Wratislavia Cantans.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: