Awstria-Hwngari: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid mk:Австро-Унгарија yn mk:Австроунгарија |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: my:သြစတြီးယားဟန်ဂေရီနိုင်ငံ |
||
Llinell 66: | Llinell 66: | ||
[[mr:ऑस्ट्रिया-हंगेरी]] |
[[mr:ऑस्ट्रिया-हंगेरी]] |
||
[[ms:Austria-Hungary]] |
[[ms:Austria-Hungary]] |
||
[[my:သြစတြီးယားဟန်ဂေရီနိုင်ငံ]] |
|||
[[mzn:اتریش-مجارستون]] |
[[mzn:اتریش-مجارستون]] |
||
[[nds:Öösterriek-Ungarn]] |
[[nds:Öösterriek-Ungarn]] |
Fersiwn yn ôl 05:22, 15 Rhagfyr 2012
Gwladwriaeth yng nghanolbarth Ewrop o 1867 hyd 1918 oedd Awstria-Hwngari. Eoedd yn ffederasiwn oedd wedi datblygu o Ymerodraeth Awstria. O gwmpas y flwyddyn 1900, Awstria-Hwngari oedd y wlad fwyaf yn Ewrop ar ôl Rwsia.
Unwyd Awstria a Hwngari trwy briodas Anna o Fohemia (merch Vladislav II, brenin Bohemia a Hwngari) a'r archddug Ferdinand I, brawd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarl V yn 1526. Yn ddiweddarach daeth Ferdinand yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig wedi i'w frawd ymddiswyddo.
Daeth yr Ymerodraeth Lân Rhufeinig i ben yn 1806, a ffurfiwyd Ymerodraeth Awstria. gyda Hwngari yn rhan ohoni. Roedd yr Hwngariaid yn anfodlon ar hyn, ac wedi i Awstria gael ei gorchfygu gan deyrnas Prwsia yn 1866, daethpwyd i gytuneb (yr Ausgleich) yn 1867, lle rhoddodd yr ymerawdwr Frans Jozef yr un statws i Hwngari ac i Awstria.
Rhoddodd hyn statws cyfartal i Awstriaid a Hwngariaid, a gradd uchel o ymreolaeth o fewn y systen ffederal, ond roedd y grwpiau ethnig eraill, megis y Tsieciaid, yn anfodlon ac yn mynnu'r un statws. Yn 1914, llofruddiwyd yr archddug Franz Ferdinand yn Sarajevo (yn Bosnia a Herzegovina), gan ddechrau'r gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Frans Jozef yn 1916, ac olynwyd ef gan Siarl I. Ar ddiwedd y rhyfel, ymddatododd Awstria-Hwngari, gyda Tsiecoslofacia, Awstria a Hwngari yn dod yn wledydd annibynnol a rhannau eraill yn dod yn eiddo Romania, yr Eidal a Gwlad Pwyl.