Gropecunt Lane: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ja:グロープカント通り |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
[[fr:Gropecunt Lane]] |
[[fr:Gropecunt Lane]] |
||
[[hu:Gropecunt Lane]] |
[[hu:Gropecunt Lane]] |
||
[[ja:グロープカント通り]] |
|||
[[nl:Gropecunt Lane]] |
[[nl:Gropecunt Lane]] |
Fersiwn yn ôl 14:51, 16 Medi 2012
Yn yr Oesoedd Canol yn Lloegr, roedd Gropecunt Lane yn enw stryd Saesneg sy'n cyfeirio at y ffaith fod puteindra yn cael ei ymarfer yno. Ar un adeg roedd yn enw cyffredin yn nhrefi a dinasoedd Lloegr (ceir un enghraifft o ddinas Dulyn yn Iwerddon hefyd).
Geirdarddiad
Mae amrywiadau ar yr enw yn cynnwys "Gropecunte", "Gropecountelane", "Gropecontelane", a "Groppecountelane". Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau ymddengys fod yr enw yn gyfuniad o'r geiriau Saesneg "grope" ('ymbalfalu, teimlo ei ffordd') a "cunt" ('cont'). Daw'r enghraifft gynharaf o ddefnyddio'r gair grope i gyfeiriad at gyffyrddio'n rhywiol o 1380 ac mae cunt yn enw Saesneg Canol adnabyddus am organau rhyw merch.[1] Yn nes ymlaen lledneiswyd yr enw gan amlaf gan ei droi'n enwau fel 'Grape Lane'
Hanes
Cofnodir yr enghraifft gynharaf mewn dogfen o 1230 am stryd ""Gropecuntlane" yn Llundain.[2] Hefyd yn Llundain, roedd lonydd o'r un enw yn Southwark, Smithfield, Shoreditch, Clerkenwell a San Steffan. O gwmpas Lloegr ceir enghreifftiau cynnar eraill o Amwythig, Rhydychen, Southampton, Henffordd, Reading a Worcester, i gyd gyda'u "Grope Lane" yng nghanol y dref; ac roedd "Gropecunt Lane" i'w cael yn Newcastle a Bryste.
Lleoliadau amlwg oedd yr rhain, yn agos i'r prif farchnadoedd lle byddai digon o gwsmeriaid ar gael.
Ceir un enghraifft o "Gropecunt Lane" o Ddulyn, ond does dim enghreifftiau o'r Alban nac o Gymru chwaith: yn achos Cymru, Cymraeg oedd iaith pawb bron a bychain iawn oedd y bwrdeistrefi Seisnigaidd mewn cymhariaeth â threfi dros Glawdd Offa.