Groeg yr Henfyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
AvicBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.5) (robot yn newid: ku:Yewnana kevnare |
B robot yn ychwanegu: kk:Ежелгі Грекия |
||
Llinell 65: | Llinell 65: | ||
[[jv:Yunani kuna]] |
[[jv:Yunani kuna]] |
||
[[ka:ძველი საბერძნეთი]] |
[[ka:ძველი საბერძნეთი]] |
||
[[kk:Ежелгі Грекия]] |
|||
[[ko:고대 그리스]] |
[[ko:고대 그리스]] |
||
[[ku:Yewnana kevnare]] |
[[ku:Yewnana kevnare]] |
Fersiwn yn ôl 23:50, 13 Gorffennaf 2012
- Am yr iaith, gweler Hen Roeg (iaith).
Cyfnod o hanes Groeg a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad Cristnogaeth, oedd Groeg yr Henfyd (neu Hen Roeg). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini Gwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr Ymerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o Ewrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis iaith, gwleidyddiaeth, athroniaeth, addysg, gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y Dadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad newydd-glasurol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Defnyddir y term Groeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr iaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: Cyprus, ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn Ionia) y Môr Aegeaidd, Sisili a ddeheubarth yr Eidal (a gelwir pryd hynny yn Magna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd Colchis, Illyria, Thrace, yr Aifft, Cyrenaica, deheubarth Gâl, rhan ddwyreiniol gorynys Iberia, Iberia'r Cawcasws a Taurica.