Groeg yr Henfyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: hy:Հին Հունաստան |
B r2.7.1) (robot yn newid: ar:اليونان القديمة |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[af:Antieke Griekeland]] |
[[af:Antieke Griekeland]] |
||
[[an:Antiga Grecia]] |
[[an:Antiga Grecia]] |
||
[[ar: |
[[ar:اليونان القديمة]] |
||
[[arz:اليونان القديمه]] |
[[arz:اليونان القديمه]] |
||
[[az:Qədim Yunanıstan]] |
[[az:Qədim Yunanıstan]] |
Fersiwn yn ôl 10:56, 23 Mawrth 2012
- Am yr iaith, gweler Hen Roeg (iaith).
Cyfnod o hanes Groeg a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad Cristnogaeth, oedd Groeg yr Henfyd (neu Hen Roeg). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini Gwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr Ymerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o Ewrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis iaith, gwleidyddiaeth, athroniaeth, addysg, gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y Dadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad newydd-glasurol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Defnyddir y term Groeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr iaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: Cyprus, ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn Ionia) y Môr Aegeaidd, Sisili a ddeheubarth yr Eidal (a gelwir pryd hynny yn Magna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd Colchis, Illyria, Thrace, yr Aifft, Cyrenaica, deheubarth Gâl, rhan ddwyreiniol gorynys Iberia, Iberia'r Cawcasws a Taurica.