Kizzy Crawford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) |
→Bywyd personol: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
Fel Cymraes hil-gymysg, mae wedi profi rhagfarn a hiliaeth ers yn ifanc iawn. Yn yr ysgol gynradd, byddai yn cael ei phryfocio gan ddisgyblion eraill yn gwneud sylwadau am lliw ei chroen. Yn 2014 aeth i berfformio yn [[Talacharn|Nhalacharn]] ar gyfer BBC Radio Wales a daeth hen ddyn fyny ati hi a'i mam gan ddweud "I hope there aren’t any more like you where you come from".<ref name="wo-7100567"/> |
Fel Cymraes hil-gymysg, mae wedi profi rhagfarn a hiliaeth ers yn ifanc iawn. Yn yr ysgol gynradd, byddai yn cael ei phryfocio gan ddisgyblion eraill yn gwneud sylwadau am lliw ei chroen. Yn 2014 aeth i berfformio yn [[Talacharn|Nhalacharn]] ar gyfer BBC Radio Wales a daeth hen ddyn fyny ati hi a'i mam gan ddweud "I hope there aren’t any more like you where you come from".<ref name="wo-7100567"/> |
||
Ym mis Medi 2019, canodd Kizzy ''[[Calon Lân]]'' gyda'i chwaer, Eady, mewn rali [[YesCymru]] yn Merthyr Tudful, yn datgan ei chefnogaeth dros [[ |
Ym mis Medi 2019, canodd Kizzy ''[[Calon Lân]]'' gyda'i chwaer, Eady, mewn rali [[YesCymru]] yn Merthyr Tudful, yn datgan ei chefnogaeth dros [[annibyniaeth i Gymru]].<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/news/uk-wales-49619554|title=Sport and arts figures join independence rally|date=2019-09-07|access-date=2019-09-11|language=en-GB}}</ref> |
||
==Disgyddiaeth== |
==Disgyddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 12:35, 22 Chwefror 2021
Kizzy Crawford |
---|
Cantores a chyfansoddwraig werin a blws Bajan-Gymreig yw Kizzy Crawford (ganwyd 25 Ebrill 1996) sydd yn canu yn Gymraeg a Saesneg. Yn ôl Kizzy, "Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz dwyieithog".[1]
Cefndir
Ganwyd Kizzy yn Rhydychen ond pan ysgarodd ei rhieni yn 1999, daeth ei mam ynghyd a'i rhieni hi i fyw i Aberaeron. Mae ei mam yn Saesnes o dde-ddwyrain Lloegr ond treuliodd gwyliau ei phlentyndod gyda thadcu a mamgu yn Diserth, Powys ac roedd wastad eisiau magu ei phlant yng Nghymru.[2]
Mae teulu ei thad yn hannu o Barbados ac fe ymfudodd y teulu i Reading yn y 1950au. Roedd ei thadcu mewn band sgiffl. Mae ei threftadaeth Bajan a'i theulu estynedig yn Barbados yn bwysig iddi ac mae'n ystyried ei hun yn Gymraes.[3]
Cafodd ei haddysg yn Gymraeg ers oedd yn bedair oed. Yn ddiweddarach symudodd i fyw ym Merthyr Tudful.[4] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr. Hi yw'r hynaf o bump o blant. Mae ganddi chwaer, Eädyth, sydd hefyd yn gantores.[5]
Enillodd Kizzy y gystadleuaeth Canwr/Cyfansoddwr 'Arts Connect' Merthyr a Rhondda Cynon Taf ym 2012 a'r gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.
Bywyd personol
Fel Cymraes hil-gymysg, mae wedi profi rhagfarn a hiliaeth ers yn ifanc iawn. Yn yr ysgol gynradd, byddai yn cael ei phryfocio gan ddisgyblion eraill yn gwneud sylwadau am lliw ei chroen. Yn 2014 aeth i berfformio yn Nhalacharn ar gyfer BBC Radio Wales a daeth hen ddyn fyny ati hi a'i mam gan ddweud "I hope there aren’t any more like you where you come from".[3]
Ym mis Medi 2019, canodd Kizzy Calon Lân gyda'i chwaer, Eady, mewn rali YesCymru yn Merthyr Tudful, yn datgan ei chefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru.[6]
Disgyddiaeth
- The Starling (Sonig, 2013)
- Temporary Zone (2013, EP, See Monkey Do Monkey.)
- Golden Brown 2014
- Shout Out / Yr Alwad 2015
- Pili Pala 2015
- Birdsong 2018
Cyfeiriadau
- ↑ Bywgraffiad ar wefan ei hunan
- ↑ (Saesneg) Kizzy Crawford Music. Kizzy Crawford (13 Medi 2019). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
- ↑ 3.0 3.1 Welsh singer racially abused at Laugharne festival , WalesOnline, 11 Mai 2014. Cyrchwyd ar 3 Mehefin 2020.
- ↑ (Saesneg) Q&A with Welsh Musician Kizzy Crawford. Show Racism The Red Card (7 Hydref 2013). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
- ↑ Young singer Kizzy Crawford, from Merthyr Tydfil, wins Arts Connect Original Singer-Songwriter prize (en) , WalesOnline, 24 Ionawr 2013. Cyrchwyd ar 3 Mehefin 2020.
- ↑ "Sport and arts figures join independence rally" (yn Saesneg). 2019-09-07. Cyrchwyd 2019-09-11.