Antony Armstrong-Jones

Oddi ar Wicipedia
Antony Armstrong-Jones
GanwydAntony Charles Robert Armstrong-Jones Edit this on Wikidata
7 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Belgravia Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Kensington, Kensington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethffotograffydd, gwneuthurwr ffilm, cynllunydd, ffotograffydd ffasiwn, dyngarwr, pendefig Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadRonald Armstrong-Jones Edit this on Wikidata
MamAnne Parsons Edit this on Wikidata
Priody Dywysoges Margaret, Lucy Davies Edit this on Wikidata
PartnerMarjorie Wallace, Melanie Cable-Alexander Edit this on Wikidata
PlantDavid Armstrong-Jones, Sarah Chatto, Frances Armstrong-Jones, Jasper Cable-Alexander Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Lucie Award, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Antony Charles Robert Armstrong-Jones, Iarll 1af Snowdon, GCVO, RDI (7 Mawrth 1930 - 13 Ionawr 2017), yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau fu'n briod a'r Dywysoges Margaret, merch ieuengaf Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig a chwaer y Frenhines Elizabeth II.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Armstrong-Jones yn unig fab y bargyfreithiwr Ronald Armstrong-Jones (1899–1966) ac Anne Messel (Iarlles Rosse), ei wraig.[1]

Roedd teulu tadol Armstrong-Jones yn hanu o'r Bontnewydd, Sir Gaernarfon; ei daid oedd  Syr Robert Armstrong-Jones, meddyg y teulu brenhinol ac roedd Margaret, ei nain, yn ferch i'r addysgwr a'r ysgolhaig Cymreig Syr Owen Roberts.[2]

Addysg[golygu | golygu cod]

Derbyniodd Armstrong-Jones ei addysg yn ysgol Sandroyd[3] , Coleg Eton a Choleg yr Iesu Caergrawnt. Bu'n astudio pensaernïaeth yng Nghaergrawnt ond methodd ei arholiadau terfynol. Ym 1950 bu'n gocs ar y tîm buddugol yn Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r brifysgol dechreuodd Armstrong-Jones weithio fel ffotograffydd ffasiwn, y theatr ac enwogion. Ym 1957 fe'i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol ar gyfer taith frenhinol i Ganada gan Elizabeth II a Dug Caeredin.

Bu Armstrong-Jones yn gyd-gyfrifol (gyda Frank Newby a Cedric Price), am gynllunio'r cawell adar yn Sw Llundain; bu hefyd yn gyfrifol am gynllunio arwisgiad ei nai Charles yn Dywysog Cymru ym 1969.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Bu Armstrong-Jones yn briod ddwywaith.[4]

Ei wraig gyntaf oedd y Dywysoges Margaret. Priododd y ddau yn Abaty Westminster ar 6 Mai, 1960 a chawsant ddau blentyn: David Armstrong-Jones, 2il Iarll Snowdon, a anwyd 3 Tachwedd 1961, a'r Ledi Sarah Armstrong-Jones, ganwyd 1 Mai 1964. Ychydig wedi'r briodas codwyd Armstrong-Jones i'r bendefigaeth gyda'r teitlau Iarll Snowdon ac Is-iarll Linley. O herwydd cysylltiadau'r iarll a'r Bontnewydd cyfeirid at y cwpl yn y Gymraeg gyda'r llysenwau ysmala Toni a Magi Bont weithiau[5].

Bu'r briodas yn un stormus gyda'r ddau bartner yn ymarfer anffyddlondeb rhywiol yn llygad y cyhoedd. Daeth y briodas i ben trwy ysgariad ym 1978 pan ddechreuodd y dywysoges berthynas gyda'r cynlluniwr gerddi Cymreig Roddy Llywellyn.

Wedi ysgaru'r dywysoges Margaret, priododd Armstrong-Jones Lucy Mary Lindsay-Hogg (née Davies), cyn-wraig y cyfarwyddwr ffilm Michael Lindsay-Hogg, ar 15 Rhagfyr 1978. Ganwyd un ferch iddynt, sef y Ledi Frances Armstrong-Jones, ar 17 Gorffennaf 1979. Daeth y briodas i ben yn 2000 wedi'r cyhoeddiad bod Armstrong-Jones wedi cael mab, Jasper William Oliver Cable-Alexander (ganwyd 30 Ebrill 1998), gyda Melanie Cable-Alexander, golygydd y cylchgrawn Country Life Magazine.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw'r Iarll yn ei gartref ar 13 Ionawr 2017 yn 86 mlwydd oed.[6]

Llinach[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • London. London: Weidenfeld & Nicolson, 1958. ( ISBN 0-297-16763-4.)
  • Assignments. London: Weidenfeld & Nicolson, 1972. ISBN 0-297-99582-0.
  • A View of Venice. [Ivrea]: Olivetti, c1972.
  • Personal View. London: Weidenfeld & Nicolson, 1979. ISBN 0-297-77715-7.
  • Snowdon Tasmania Essay. Hobart: Ronald Banks, 1981. ISBN 0-85828-007-8. Testyn gan Trevor Wilson.
  • Sittings, 1979–1983. London: Weidenfeld & Nicolson, 1983. ISBN 0-297-78314-9.
  • Israel: A First View. London: Weidenfeld & Nicolson, 1986. ISBN 0-297-78860-4.
  • Stills 1984–1987. London: Weidenfeld & Nicolson, 1987. ISBN 0-297-79185-0.
  • Serendipity: A Light-hearted Look at People, Places and Things. Brighton: Royal Pavilion, Art Gallery & Museums, 1989. ISBN 0-948723-10-6.
  • Public Appearances 1987–1991. London: Weidenfeld & Nicolson, 1991. ISBN 0-297-83122-4.
  • Hong Kong: Portraits of Power. Boston: Little, Brown, 1995. ISBN 0-316-22052-3. Testyn gan Evelyn Huang a Lawrence Jeffery.
  • Wild Flowers. London: Pavilion, 1995. ISBN 1-85793-783-X.
  • Snowdon on Stage: With a Personal View of the British Theatre 1954–1996. London: Pavilion, 1996. ISBN 1-85793-919-0.
  • Wild Fruit. London: Bloomsbury, 1997. ISBN 0-7475-3700-3. Testyn gan Penny David.
  • London: Sight Unseen. London: Weidenfeld & Nicolson, 1999. ISBN 0-297-82490-2. Testyn gan Gwyn Headley.
  • Photographs by Snowdon: A Retrospective. London: National Portrait Gallery, 2000. ISBN 1-85514-272-4.
  • Snowdon. London: Chris Beetles Gallery, 2006. ISBN 1-871136-99-7.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "How Jewish is Lord Snowdon?". The Jewish Chronicle. 23 Medi 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-16. Cyrchwyd 2017-01-13.
  2. "Nobility in Tony's Background". Chicago Tribune 28 Ebrill 1960. ...Margaret was the daughter of Sir Owen Roberts
  3. Sandroyd – Old Sandroydians – 1939–1943 The Earl of Snowdon (A Armstrong-Jones) Archifwyd 2015-10-21 yn y Peiriant Wayback.. Sandroyd School. Adalwyd 22 Mai 2013.
  4. Alderson, Andrew (31 Mai 2008). "Lord Snowdon, his women, and his love child". The Daily Telegraph.
  5. WELSH-TERMAU-CYMRAEG 20 Hydref 2015
  6. Daily Post Lord Snowdon dies: Tributes and reaction as Princess Margaret's former husband's death confirmed

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]