Anthony Berry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anthony Berry
Anthony Berry 1978.jpg
Ganwyd 12 Chwefror 1925 Edit this on Wikidata
Eton Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Hydref 1984 Edit this on Wikidata (59 oed)
Brighton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Y DU Y DU
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Tad Gomer Berry Edit this on Wikidata

Roedd Syr Anthony George Berry (12 Chwefror 1925 - 12 Hydref 1984) yn wleidydd o dras Gymreig a wasanaethodd fel yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Enfield Southgate, ac yn Chwip yn llywodraeth Margaret Thatcher. Bu'n Aelod Seneddol am dros 20 mlynedd hyd iddo gael ei ladd yn bomio gwesty yn Brighton gan yr IRA.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Berry yn Eton, Swydd Buckingham (bellach yn Berkshire), yn chweched mab y barwn papurau newydd Gomer Berry, Is-iarll Kemsley, a'i wraig Mary (née Holmes).

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.[2]

Bu'n briod ddwywaith. Ym 1954 priododd yr Anrhydeddus. Mary Cynthia Roche, merch y 4ydd Barwn Fermoy. Priododd chwaer Mary, Frances â John Spencer, 8fed Iarll Spencer ac felly roedd Anthony Berry yn ewythr i Diana, Tywysoges Cymru ac yn hen ewythr i Ddug Caergrawnt edling tybiedig coron Lloegr.

Roedd gan Syr Anthony a'i wraig, Mary, pedwar o blant: Alexandra Mary (a aned ym 1955), Antonia Ruth a Joanna Cynthia (efeilliaid, a anwyd 1957), ac Edward Anthony Morys (a aned ym 1960). Cawsant ysgariad ym 1966.

Priododd ei ail wraig, Sarah Clifford-Turner, yn Chelsea ym 1966 bu iddynt dau o blant: George (a aned ym 1967), a Sasha Jane (a aned ym 1969).

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd Berry fel Is-gapten yn y gwarchodlu Cymreig rhwng 1943 a 1947. Wedi ymadael a'r fyddin aeth i weithio i bapurau ei dad gan wasanaethu fel dirprwy olygydd y Sunday Times rhwng 1952 a 1954 a Golygydd y Sunday Chronicle ym 1954. Daeth yn gyfarwyddwr Cwmni Papurau Kemsley ym 1954. Bu'n rheolwr gyfarwyddwr Western Mail and Echo Ltd o 1955 i 1959. Roedd yn llywydd Cyngor Chwaraeon Cymru o 1959 hyd ei farwolaeth. Fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch dros Gaerdydd ym 1961 ac yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1962.[2]

Etholwyd ef yn AS Ceidwadol Southgate (yn ddiweddarach Enfield Southgate) yn etholiad cyffredinol 1964, ac fe'i gwasanaethodd yn llywodraeth Margaret Thatcher ar ôl i'r Ceidwadwyr ennill yr etholiad cyffredinol ym 1979. Bu'n Is-Siambrlen yr Osgordd rhwng 1979 a 1981, Distain yr Osgordd rhwng 1981 a 1983 ac fe'i penodwyd yn Drysorydd yr Osgordd ym 1983. Fe'i dyrchafwyd yn farchog ym mis Rhagfyr 1983. Ar adeg ei farwolaeth roedd yn Ddirprwy Brif Chwip yn llywodraeth Thatcher.[3]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 12 Hydref 1984, cafodd Berry ei ladd o ganlyniad i ffrwydrad mewn gwesty yn Brighton, pan blannwyd bom yng Ngwesty’r Grand yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol. Roedd yn 59 mlwydd oed. Fe'i goroeswyd gan ei wraig, y Fonesig Berry, a anafwyd yn y ffrwydrad.

Ym mis Medi 1986, derbyniodd Patrick Magee, a gyflawnodd y bomio, wyth dedfryd o garchar am oes, ond fe'i rhyddhawyd o'r carchar ym 1999 o dan delerau cytundeb Gwener y Groglith. [4]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Beverly Baxter
Aelod Seneddol

Southgate
19641983

Olynydd:
etholaeth newydd
Rhagflaenydd:
diddymu etholaeth
Aelod Seneddol

Enfield Southgate
19831984

Olynydd:
Michael Portillo