Anna Maria Bennett

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anna Maria Bennett
Ganwyd Anna Maria Evans Edit this on Wikidata
1760 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Chwefror 1808 Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Galwedigaeth nofelydd, awdur Edit this on Wikidata

Roedd Anna Maria Bennett (tua 1750[1] - 12 Chwefror 1808) yn nofelydd Saesneg. Mae rhai ffynonellau yn rhoi ei henw fel Agnes Maria Bennett.

Ei gwaith mwyaf adnabyddus yw'r nofel epistolari Agnes de-Courci (1789).

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg y cafodd Anna ei geni ym Merthyr Tudful, Sir Forgannwg, Cymru, yn ferch i David Evans, a ddisgrifir yn amrywiol fel swyddog tollau neu groser. Bu'n briod am gyfnod byr â'r swyddog tollau Thomas Bennett, ond tra'n gweithio mewn siop siandler ar ôl symud i Lundain, cwrddodd â'r Is-Lyngesydd Thomas Pye. Daeth yn ofalwr y ty ac yn feistres iddo yn Tooting, Surrey. Roedd gan y cwpl o leiaf ddau o blant anghyfreithlon gyda'i gilydd, Thomas Pye Bennett a Harriet Pye Bennett. Daeth yr olaf yn actores enwog o dan yr enw Harriet Pye Esten (tua 1765-1865), gyda'i mam yn helpu i lansio ei gyrfa.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Anna: or Memoirs of a Welch Heiress, 1785
  • Juvenile Indiscretions, 1786
  • Agnes de-Courci: a Domestic Tale, 1789
  • Ellen, Countess of Castle Howel, 1794
  • The Beggar Girl and he Benefactors, 1797
  • De Valcourt, 1800
  • Vicissitudes Abroad, 1806

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Agnes Maria Bennett, in Laura Dabundo, ed., Encyclopedia of Romanticism (Routledge, 1992).

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]