Neidio i'r cynnwys

Ann Mercy Hunt

Oddi ar Wicipedia
Ann Mercy Hunt
Ganwyd25 Hydref 1938 Edit this on Wikidata
Y Trallwng Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, ymchwilydd meddygol Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Roedd Ann Mercy Hunt (née Carroll) (25 Hydref 1938 – 25 Mehefin 2014) yn ymchwilydd ac ymgyrchydd meddygol o Gymru.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hunt yn ysbyty'r Trallwng, yn blentyn i Lawrence William Carroll ac Elizabeth Ann, née Randall ei wraig, y ddau yn athrawon yn Essex. Roedd ei mam wedi dychwelyd adref i Gymru i esgor ar ei phlentyn oherwydd ofnau bod Prydain ar fin mynd i ryfel. Arhosodd Elizabeth Ann yn y Trallwng hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn y Trallwng gwariodd Ann Mercy y 7 mlynedd gyntaf o'i phlentyndod.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd dychwelodd Ann Mercy a'i mam i Essex. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Merched Dinas Llundain. Astudiodd cemeg ym mhrifysgol Caergrawnt o 1956.

Ym Mhrifysgol Caergrawnt cyfarfu Ann Mercy a John David Hunt, cyd efrydydd cemeg. Ar ôl i'r ddau graddio priodasant ym 1961. Bu iddynt tri phlentyn David, Helena , a James .

Gyrfa gynnar

[golygu | golygu cod]

Ym 1963 symudodd John ac Ann nhw i New Jersey, UDA, i weithio i gwmni ffonau Bell yn labordai'r cwmni. Roedd Ann yn gweithio ar ddadansoddi deunyddiau gyda microsgopeg electron a gyda diffreithiant pelydr-x. Ym 1965 dychwelsant i Loegr er mwyn dechrau teulu. Rhoddodd Ann y gorau i'w gwaith i fagu ei phlant.

Ymgyrchydd meddygol

[golygu | golygu cod]

Ychydig wedi ei enedigaeth cafodd James, plentyn ieuengaf John ac Ann ddiagnosis o Gymhlethdod Sglerosis Twbercylaidd, clefyd nad oedd llawer yn hysbys amdano ac nad oedd triniaeth na chefnogaeth ar gael ar ei gyfer.[2] Mae Cymhlethdod Sglerosis Twbercylaidd yn gyflwr genetig sy'n ymyrryd â datblygiad organau, gan achosi epilepsi, anabledd deallusol, anhwylder sbectrwm awtistiaeth, problemau seiciatryddol eraill, a thiwmorau lluosog.[3] Mae mor amrywiol fel nad yw'r rhan fwyaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwybod fawr ddim amdano, gan ychwanegu ymdeimlad o unigedd a diymadferthedd i'r galar y mae teuluoedd yn ei ddioddef.

Mewn ymateb i ddiagnosis ei mab sefydlodd Hunt grŵp cefnogaeth i deuluoedd eraill oedd ag aelodau o'u teulu yn ddioddef a'r cyflwr, y Gymdeithas Sglerosis Twbercylaidd (TSA), ym 1977.[4] Bu farw James ym 1984, yn dair ar ddeg oed, o effeithiau Cymhlethdod Sglerosis Twbercylaidd. Serch hynny, parhaodd Ann Hunt i feithrin ac arwain y TSA, gan recriwtio aelodau hynod effeithiol eraill, a goruchwylio ei dwf i'r elusen genedlaethol ar gyfer TSC yn y DU, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i gannoedd o deuluoedd, a chyllido a hwyluso datblygiadau ymchwil mawr. Gwasanaethodd Ann Hunt y TSA fel ysgrifennydd, wedyn fel cadeirydd ac yn olaf fel llywydd.[1]

Gweithgaredd amgen

[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Ann Hunt fel cadeirydd Cyngor Plwyf North Leigh a chadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Swydd Rydychen. Cafodd ei phenodi'n ynad heddwch ym 1981. Gweithiodd gyda'r Adran Iechyd ar eu pwyllgor cynghori ar therapi genynnau rhwng 1996 a 2002.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw Hunt yng nghartref ei ferch yn Lyndhurst, Hampshire, o thromboemboledd ysgyfeiniol yn 75 mlwydd oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Hunt [née Carroll], Ann Mercy (1938–2014), medical researcher and campaigner". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/odnb/9780198614128.013.109008. Cyrchwyd 2021-03-15.
  2. 1 2 "Ann Hunt obituary". the Guardian. 2014-07-30. Cyrchwyd 2021-03-15.
  3. ↑ "Tuberous sclerosis complex: MedlinePlus Genetics". medlineplus.gov. Cyrchwyd 2021-03-15.
  4. ↑ TSA, The. "History of the TSA". The Tuberous Sclerosis Association. Cyrchwyd 2021-03-15.